Cyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe yn ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2018

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Rebecca Morgan, cyn-fyfyrwraig Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, wedi ei henwi fel enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018.

Rebecca Morgan Medal y Dysgwyr 2018

Athrawes Gymraeg ail iaith yw Rebecca, 24, sy’n dysgu yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd.

Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo rhywun sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg, gyda'r fedal yn cael ei rhoi i unigolyn sy'n dangos sut y maent yn defnyddio'r iaith yn ddyddiol yn yr ysgol neu'r gweithle, a hefyd yn gymdeithasol.

Yn wreiddiol o Bencoed, mynychodd Rebecca ysgol ffrwd Saesneg gan astudio cwrs Cymraeg ail-iaith tra yn y chweched dosbarth. Ar ôl iddi gael ei hysbrydoli gan ei hathrawon Cymraeg, penderfynodd Rebecca astudio am radd BA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Er mwyn gwella ei meistrolaeth o’r iaith tra’n fyfyriwr, dilynodd Rebecca cwrs Graenus yn y Gymraeg trwy ddosbarthiadau nos. Derbyniodd Rebecca radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe yn 2016.

Ar ôl cipio Medal y Dysgwyr, dywedodd Rebecca Morgan:

"Mae’n anrhydedd ennill Medal Dysgwr y Flwyddyn eleni. Ers oedran ifanc, mwynheais i ddysgu Cymraeg, a nawr, ar ôl blynyddoedd o ddysgu, rydw i mor falch o’r ffaith fy mod i’n gallu rhannu fy nghariad at yr iaith gyda’r disgyblion rwy'n eu dysgu bob dydd. Hoffwn i roi diolch enfawr i bob athro, athrawes a darlithydd sydd wedi fy ysbrydoli, ac i'm teulu a'm ffrindiau i gyd am y cymorth parhaus. Y neges i bawb yw, os dw i’n gallu 'wneud e, mae pawb yn gallu 'wneud e!”

Meddai Dr Rhian Jones pennaeth Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe:

“Rydyn ni i gyd, yn staff ac yn fyfyrwyr, yn llawenhau gyda Rebecca ac yn ymfalchïo yn ei champ yn cipio Medal y Dysgwyr.  Mae’n wych fod yr Urdd yn cynnal cystadleuaeth fel hon er mwyn dathlu llwyddiannau dysgwyr ifanc, brwd. 

“Treuliodd Rebecca dair blynedd gyda ni yn Adran y Gymraeg, Abertawe ac erbyn diwedd ei blwyddyn gyntaf yn dilyn y llwybr ail iaith, roedd yn gwbl rugl yn y Gymraeg. Nid yw’n syndod o gwbl i ni fel Adran iddi gael y fath lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd eleni.  Edrychwn ymlaen at gael dathlu gyda hi!”