Astudiaeth newydd yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau dal yn broblem i staff awyrennau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Nid yw gyrfaoedd sy'n uchel yn yr awyr o reidrwydd yn golygu cyflogau uchel hefyd i fenywod, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe.

Yn aml, caiff y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ei ystyried i fod o ganlyniad i’r ffaith mai dynion sy'n gwneud y swyddi technegol iawn, megis bod yn beilot a pheirianwyr, tra bydd menywod yn tueddu i weithio mewn rolau gwasanaeth cwsmeriaid, fel bod yn aelod o griw'r awyren. 

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau'n brif destun papur newydd, Women in Aviation, a ysgrifennwyd gan Geraint Harvey, Joceleyn Finniear a Mrinalini Greedharry, sy'n academyddion yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Research in Transportation Business and Management. 

600 x 338

Maent yn dadlau bod "natur gwaith y diwydiant, sy'n seiliedig ar ryw, yn golygu mai menywod yn aml sy'n gwneud y gwaith llai medrus a llai pwysig yn strwythurol, ac o ganlyniad maent yn fwy tebygol o brofi ansicrwydd yn eu gwaith." 

Mae'r papur yn cydnabod y caiff y dyletswyddau y mae staff criwiau awyren a gwasanaethau cwsmeriaid eraill yn ymgymryd â nhw eu gwneud yn aml gan staff benywaidd, er eu bod yn cynnwys llawer o waith emosiynol, sgil nad yw'n cael ei werthfawrogi yn yr un ffordd â sgiliau technegol peilot. 

Fodd bynnag, canfyddiad allweddol yr astudiaeth yw bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer criwiau awyrennau hyd yn oed ar ôl ystyried y math o gontract. 

Wrth ddadansoddi data o astudiaeth gynhwysfawr a wnaed yn 2014, gyda chefnogaeth y Comisiwn Ewropeaidd gan Geraint Harvey a Peter Turnbull, o Brifysgol Bryste, cymharodd tîm yr Ysgol Reolaeth gyflogau staff criwiau awyrennau benywaidd a gwrywaidd o'r Eidal, Norwy, Sweden a'r DU. 

Mae eu canfyddiadau'n dangos bod cwmnïoedd hedfan y DU ymhell ar ei hôl hi o'u cymharu â chwmnïoedd ar y cyfandir o ran cydraddoldeb cyflogau. 

Datgelodd y dadansoddiad mai prin oedd y gwahaniaeth rhwng canran y staff criwiau awyrennau benywaidd a gwrywaidd a fu'n adrodd am incwm gwarantedig o €1,400 neu lai bob mis yn Sweden a Norwy, ond bod yr un gwahaniaeth yn achos y DU yn wahanol iawn yn ystadegol. 

Canfu'r tîm hefyd fod "gwahaniaeth ystadegol sylweddol rhwng incwm misol gros staff criwiau awyrennau benywaidd a gwrywaidd yn y DU gyda llai na chwarter o'r ymatebwyr a oedd yn fenywod yn datgan incwm o €2,000 neu fwy o'i gymharu â'r ymatebwyr a oedd yn ddynion."

Canfu'r ymatebwyr fod llawer o'r staff yn y sefyllfa anodd o ddioddef o bwysau sy'n gysylltiedig â gwaith amser llawn gan nad oedd gweithio'n rhan-amser yn ddichonol. 

Yn ogystal, canfuwyd ansicrwydd gwaith ganddynt o ganlyniad i aildrefnu sifftiau ar fyr rybudd a allai gael effaith niweidiol ar y cydbwysedd bywyd-gwaith ac ymrwymiadau teuluol. 

Adroddodd y papur:  "Dywedodd canran uchel o'r ymatebwyr benywaidd (44.1%) y cânt llai na 24 awr o rybudd am newidiadau i'w hamserlen waith fel arfer, a dywedodd draean arall (34.4%) y cânt rhwng 24 a 48 awr o rybudd am newidiadau fel arfer." 

Wrth ddadansoddi amodau a thelerau gweithwyr benywaidd a gwrywaidd yn y diwydiant a chanfod eu bod yn gwaethygu i'r ddau grŵp, daeth yr academyddion i'r casgliad mai nad o reidrwydd menywod yn ei chael hi'n anos na dynion yw hi, ond bod y ddau grŵp yn ei chael hi'n anodd a'i bod hi'n anos byth i fenywod.