Prifysgol Abertawe'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar 8 Mawrth rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, diwrnod sy'n dathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod ddoe, heddiw a'r dyfodol. Y thema eleni yw 'Pwyso am Gynnydd' ac unwaith eto, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i ddathlu menywod ac i bwyso am gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Ar 8 Mawrth, rhwng 2.00pm a 3.00pm yn ffreutur Tŷ Fulton, bydd:

  • Arwerthiant teisennau i godi arian at Gymorth Menywod Cymru, sy'n gweithio i roi terfyn ar drais domestig yn erbyn menywod a merched yng Nghymru, a Project My Girl, sy'n cefnogi merched ym Malawi i gael mynediad i addysg.
  • Sesiwn tynnu lluniau gyda baner swyddogol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Gwahoddir pobl o bob rhyw ac ethnigrwydd, pobl anabl, pobl o ffydd a phobl o gefndiroedd amrywiol i ymuno yn y sesiwn a gwisgo dillad porffor, lliw swyddogol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
  • Cyfle i gydganu cân y Cenhedloedd Unedig, One Woman.

Yn ogystal, drwy gydol yr wythnos, bydd y Brifysgol yn amlygu 12 o fenywod llwyddiannus ac ysbrydoledig sy'n gweithio ac yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac yn cefnogi'r sefydliad. Bydd y thema eleni, sef 'codi wrth i chi ddringo', yn canolbwyntio ar sut mae'r menywod ysbrydoledig hyn wedi defnyddio eu llwyddiant i helpu eraill i gyflawni neu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

 IWD 12 inspirational women 2018

Bydd y Brifysgol hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy gydol mis Mawrth, gan ddechrau ar 6 Mawrth pan gynhaliwyd sgwrs gan Yr Athro Laura Serrant, Athro Nyrsio o'r Gyfadran Iechyd a Lles. Canolfan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Sheffield Hallam.

Mewn sgwrs o'r enw : 'Lift as you climb': On womanhood, diversity and leadership, bu'r Athro Serrant yn trafod ei thaith yrfaol. A hithau'n un o'r ychydig o Athrawon Nyrsio du yn y DU, soniodd yr Athro Serrant am gynrychioli nyrsys a chymunedau lleiafrifoedd, a sut mae hi wedi ymdrechu i rymuso eraill.

Yn dilyn sgwrs yr Athro Serrant, cynhelir y digwyddiadau canlynol:

 

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018: Yr Athro Sara Mole o Ysbyty Great Ormond Street UCL a Pat Price, Cyfarwyddwr yr Uned Cynllunio a Phrosiectau Strategol

Dyddiad/Amser: 7 Mawrth (12pm-3pm)
Lleoliad: Ystafell Seminar 1 y Sefydliad Gwyddor Bywyd, Campws y Parc

Fel rhan o gyfres Seminarau Athena Swan, bydd yr Athro Sara Mole, Athro Bioleg Celloedd Moleciwlaidd yn UCL, yn trafod ei strategaeth ymchwil, nawr ac yn y gorffennol. Drwy ei rôl fel Llysgennad Profost UCL dros Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau, bydd yr Athro Mole yn myfyrio hefyd ar heriau sy'n gysylltiedig â rhyw ym maes STEMM, gan gyfeirio'n benodol at ddyfarniad aur Athena Swan diweddar ei hadran.

Bydd Pat Price, Cyfarwyddwr Uned Cynllunio a Phrosiectau Strategol Prifysgol Abertawe, hefyd yn siarad am ei thaith yrfaol yn y digwyddiad hwn.

 

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018: "Reel Women"

Dyddiad/Amser: 7 Mawrth (2.30pm-5pm)

Lleoliad: Yr Atriwm, Adeilad yr Ysgol Reolaeth, Campws y Bae

Mae'r Ysgol Reolaeth  a'r Coleg Peirianneg yn gwahodd pob myfyriwr ac aelod staff i ddigwyddiad rhwydweithio anffurfiol wedi'i ysbrydoli gan ffilmiau sy'n adrodd straeon menywod mor amrywiol â'r dringwr, Gwen Moffatt, a'r ymgyrchydd, Erin Brockovich.

Dangosir amrywiaeth o ffilmiau byr a darnau o ffilmiau i annog trafodaeth am sut gallwn bwyso am gynnydd a chodi wrth i ni ddringo (yn llythrennol yn achos Gwen) yma ar Gampws y Bae.

 

Cinio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales - Dathlu Menywod mewn TG yng Nghymru

Dyddiad/Amser: 8 Mawrth (5pm-9pm)

Lleoliad: Gwesty'r Marriott, Abertawe

Bydd y digwyddiad hwn yn amlygu'r amrywiaeth eang o gyfleoedd busnes a gyrfa sydd ar gael i fenywod yn yr unfed ganrif ar hugain, gan gynnig cyfle i rannu profiadau, gwybodaeth ac arfer gorau, yn enwedig i fenywod sy'n gweithio ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Noddir y thema eleni, "Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf", gan Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018: Yr Athro Kirsti Bohata yn siarad am yr ymgyrch i ennill y bleidlais i fenywod a llenyddiaeth menywod yng Nghymru

Dyddiad/Amser: 9 Mawrth (12pm-12:40pm)

Lleoliad: Y Stiwdio, Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe

Bydd yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cynnal digwyddiad ar ran Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i drafod yr ymgyrch i ennill y bleidlais i fenywod a llenyddiaeth menywod yng Nghymru.

 

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018: Cyfoeth mewn Amrywiaeth yn y Coleg Gwyddoniaeth

Dyddiad/Amser: 15 Mawrth (1pm-2pm)

Lleoliad: Adeilad Wallace, Campws y Parc

Yn y digwyddiad rhwydweithio hwn, bydd siaradwyr gwadd yn sôn am y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a lles, ac yn trafod gwahaniaethu cadarnhaol yn erbyn gweithredu cadarnhaol.

Mae'r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo llawer o'i gyrfa i sicrhau bod menywod a merched yn cael mynediad i wyddoniaeth a pheirianneg. A hithau'n academydd ac yn fenyw flaenllaw ym maes STEM, mae'r Athro Lappin-Scott yn cael ei chydnabod, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, gan Ffederasiwn Cymdeithasau Microbiolegol Ewrop (FEMS) - hi yw Is-lwydd presennol y Ffederasiwn.

Yn siarad ar y dydd, meddai'r Athro Lappin-Scott, "Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ni ddod ynghyd a theimlo'n rhan o'r gymuned o fenywod ledled y byd. Mae'n ddiwrnod i gydnabod a dathlu cyfraniadau menywod at bob agwedd ar fywyd, i fyfyrio a diolch am y cenedlaethau o fenywod anhygoel sydd wedi helpu i wneud y diwrnod hwn yn bosib, ac am y cenedlaethau o fenywod rhyfeddol i ddod."

International Women's Day Logo 2

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am sut gallwch ymuno â Phrifysgol Abertawe i dalu teyrnged i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018.