Prifysgol Abertawe i gynnal gweithdy llawdriniaethau gofal llosg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi fydd Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe yn cynnal gweithdy pum diwrnod i ddatblygu modiwl hyfforddi datblygedig ar gyfer llawfeddygon gwledydd incwm isel a chanol.

Bydd y Coleg, a lansiodd y Canolfan Polisi ac Ymchwil ar gyfer Anafiadau Llosg llynedd, yn cynnal gweithdy i ddatblygi'r Modiwl Llawdriniaeth Gofal Datblygedig Llosg ar ddydd Llun, Ebrill 30 i ddydd Gwener, Mai 4.

Bydd clinigwyr o wledydd incwm isel a chanol yn cael eu gwahodd i weithdy’r Brifysgol i gynorthwyo yn natblygiad y rhaglen ymarfer ag i rannu syniadau a'i gilydd.

Ymhlith mynychwyr y digwyddiad fydd Dr Habib Rahman, un o’r unig lawfeddygon llosg pediatrig Afghanistan, o Sefydliad Iechyd Plant Indira Gandhi yn Kabul a Dr Richard Nnabuko, un o brif lawfeddygon plastig ymgynghorol llosg Nigeria a cyn llywydd o Gymdeithas Losg Pan-Affrica.

Mae hyn yn dilyn gwaith y coleg yn gyda’r rhwydwaith gwirfoddol rhyngwladol, NGO Interburns a ddatblygodd rhaglen hyfforddi i ofal sylfaenol llosg yn Ethiopia mis diwethaf.

600 x 399

Dywedodd Yr Athro Tom Potokar OBE: 

“Rydym yn falch iawn i wahodd ein cyd-weithwyr rhyngwladol i Abertawe, ag yn edrych ymlaen at ddatblygu rhaglen hyfforddi yn arbennig ar gyfer llosgi yn amgylchoedd incwm isel.

“Mae’n hynod o anodd i ffeindio llawfeddygon sydd yn fodlon gweithio yn ardaloedd llosg a trwy cynnig hyfforddiant yn y maes yma, rydym yn cefnogi Gweinidogaethau Iechyd ledled y byd  i gefnogi meddygon i ddatblygu eu sgiliau yn yr ardaloedd di-freintiedig yma. Dyma’r cam cyntaf yn gwneud y newid yma.”

Mae’r gweithdy wedi ei ariannu gan yr Adran am Ddatblygiad Rhyngwladol a’r Canolfan am Bolisi Byd-Eang am Anafiadau Llosg. Caiff yr ymchwil eu gefnogi gan y Sefydliad Cenedlaethol am Ymchwil Gofal Iechyd.