Penodi Dr Jon Howden-Evans yn Is-lywydd AGCAS

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Jon Howden-Evans wedi'i benodi'n Is-lywydd Cymdeithas y Gwasanaethau Cyngor ar Yrfaoedd i Raddedigion (AGCAS), sy'n cefnogi ac yn cynrychioli gwasanaethau datblygu a chyflogadwyedd i fyfyrwyr prifysgol ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Wedi derbyn y rôl am y tair blynedd nesaf, nod Jon yw cyfuno'i brofiad o gymorth myfyrwyr, rhagoriaeth addysgu a chydymffurfiaeth reoliadol i sicrhau bod effaith ac arwyddocâd y gwasanaethau a'r arbenigedd sy'n cefnogi canlyniadau myfyrwyr yn parhau i dyfu.

Yn ei swydd fel pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) am y pum mlynedd ddiwethaf, mae Jon wedi cydlynu trawsnewidiad darpariaeth cymorth gyrfaoedd, lleoliadau gwaith a menter ar wahân drwy raglen newid prifysgol gyfan. Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar raddedigion, ac yn ddiweddar cyrhaeddodd Prifysgol Abertawe restr fer Prifysgol y Flwyddyn Times Higher Education. Mae SEA wedi cyrraedd rhestr fer y categori Gwasanaethau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Gorau yng Ngwobrau Cyflogadwyedd Israddedig Cenedlaethol 2019.

250 x 344

Ymunodd Jon â Phrifysgol Abertawe yn 2004 i ddatblygu ac addysgu diploma proffesiynol i raddedigion y gyfraith, gan fynd ymlaen i arwain yr Adran Astudiaethau Cyfreithiol, yna i swyddi fel Dirprwy Bennaeth yr Ysgol a Chyfarwyddwr Cyflogadwyedd y Coleg Busnes, Economeg a'r Gyfraith.

Ac yntau'n gyfreithiwr cymwysedig, gan arbenigo mewn cyfraith cystadleuaeth, addysgodd Jon ystod o bynciau cyfreithiol i fyfyrwyr ar wahanol lefelau astudio yn Abertawe, Caerdydd a'r Brifysgol Agored. Mae wedi cyflwyno 'model cyflogadwyedd' Prifysgol Abertawe mewn amrywiaeth o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.

Medda'r Athro Hilary Lappin-Scott OBE, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae cefnogi canlyniadau ardderchog graddedigion wedi bod yn nod allweddol o genhadaeth y Brifysgol i sicrhau bod ein graddedigion yn gadael gyda swydd, ac ar ben hynny y sgiliau ar gyfer gyrfaoedd hyd oes, gan alluogi eu llwyddiannau eu hunain, a hefyd i wneud gwahaniaeth go iawn yn y cymunedau lle maent yn byw ac yn gweithio.

"Mae Jon wedi chwarae rhan bwysig yn narpariaeth y cymorth hwn, ac rwy'n hynod falch o'r penodiad hwn iddo ef, yn ogystal â'r gydnabyddiaeth mae'r Brifysgol wedi'i hennill dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Mae gwaith AGCAS yn hanfodol i symud ymlaen y ffordd yr ydym ni fel prifysgolion yn sicrhau canlyniadau da graddedigion, ac rwy'n falch bod Jon yn gallu cyfuno bod yn Is-lywydd ag arwain SEA.

"Mae pawb ym Mhrifysgol Abertawe yn dymuno'n dda iddo yn ei rôl newydd."