Y Brifysgol i gynnal abseil 150 troedfedd mewn gwisg ffansi dros elusen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae trefnwyr sefydliad gwirfoddoli myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Darganfod, yn apelio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn abseil 150 troedfedd dros elusen o doeau Neuaddau Cilfái. Bydd y gwirfoddolwyr mewn gwisg ffansi a'r thema fydd "Pan fyddaf mewn oed, dwi eisiau bod yn ...."

Abseil poster

Mae trefnwyr sefydliad gwirfoddoli myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Darganfod, yn apelio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn abseil 150 troedfedd dros elusen o doeau Neuaddau Cilfái. Bydd y gwirfoddolwyr mewn gwisg ffansi a'r thema fydd "Pan fyddaf  mewn oed, dwi eisiau bod yn ...." 

Bydd y digwyddiad a gynhelir ar 17 a 18 Mehefin, yn rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Darganfod a bydd yn codi arian dros raglenni addysg a gynhelir gan ddwy elusen a sefydlwyd yn y Brifysgol, SOS Africa a Partneriaeth Abertawe-Siavonga.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio recriwtio 300 o abseilwyr a gall gwirfoddolwyr gofrestru drwy e-bostio info@sosafrica.com neu drwy ffonio 01749 344197 a thalu blaendal o £15.  Dylai unigolion godi o leiaf £50 a dylai timau o chwech godi o leiaf £300. Bydd gan yr holl gyfranogwyr gyfle i ennill dau docyn awyren i deithio i brosiect elusennol yn Affrica.

Meddai Christine Watson MBE, Rheolwr rhaglen Darganfod, "Rydym wrth ein boddau ac yn falch o weithio gyda SOS Africa eto ar brosiect mor gyffrous, mewn blwyddyn proffil uchel ar gyfer Darganfod wrth i ni ddathlu cyflawniadau 50 mlynedd fel elusen gofrestredig ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae codi arian ar gyfer ein prosiectau yn Africa bob amser yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn falch iawn o gynnal y digwyddiad hwn gyda chymorth y Brifysgol.  Bydd gan wirfoddolwyr hen a newydd, staff a'r cyhoedd gyfle i abseilio i lawr Neuaddau Cilfái ac ymuno yn y dathliadau niferus eraill ar benwythnos yr hanner canmlwyddiant.   Mae'n ddigwyddiad gwych mewn cyfnod gwych i ni!

Meddai'r Dr Matt Crowcombe, Sylfaenydd SOS Africa, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, "Mae SOS Africa yn elusen ar lawr gwlad a sefydlwyd yn 2003 gan grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a oedd am wneud gwahaniaeth hirdymor i fywydau'r rhai llai ffodus. Tair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, rydym yn falch o gynnal y digwyddiad cyffrous hwn mewn partneriaeth ag Abertawe-Siavonga a Darganfod, o Adeilad Cilfái 150 troedfedd o uchder. Mae croeso i staff a myfyrwyr, hen a newydd, a'r gymuned leol gymryd rhan a pharhau â'r etifeddiaeth hon."

Nod Partneriaeth Abertawe-Siavongau, a sefydlwyd yn 2008, yw meithrn cysylltiadau rhwng gwahanol ddiwylliannau ac uchafu incwm drwy rannu profiadau a dysgu, cefnogi plant drwy addysg, a gwneud y defnydd gorau o'r amgylchedd i wella iechyd drwy faeth.

Mae'r elusen plant, SOS Africa, yn elusen fach yn y DU ar gyfer noddi plant; mae'n buddsoddi yn addysg a gofal plant yn Affrica er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial.