Prifysgol Abertawe'n cyrraedd 400 uchaf QS World University Rankings

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi gwella'n fawr ar ei safle ymhlith 500 o brifysgolion gorau'r byd yn QS World University Rankings® 2015/2016, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth, 15 Medi), gan gyrraedd safle 400 yn y byd.

QS World University Rankings 2015-16Mae enw da rhyngwladol cynyddol y Brifysgol wedi'i gweld yn neidio 69 safle'n uwch na safle'r llynedd, gan roi Abertawe ymhlith y 4% o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r byd.

Mae QS wedi cyhoeddi'r safleoedd bob blwyddyn ers 2004, gan ystyried dros 3,000 o'r amcangyfrif o 10,000 o brifysgolion sydd yn y byd.

Yn ôl safleoedd diweddaraf QS, mae Prifysgol Abertawe hefyd:

  • Yn safle 180 a 235 yn y byd am gymhareb myfyrwyr rhyngwladol a staff yn ôl eu trefn, sy'n dangos ei hymdrech a'i hymroddiad i fod yn sefydliad gwirioneddol ryngwladol. 
  • Yn safle 360 yn y byd (i fyny 41 safle) am gryfder ei hymchwil, ar sail y nifer o ddyfyniadau o dderbyniwyd am bob aelod staff academaidd. Mae'r gwelliant hwn yn adlewyrchu twf sylweddol ansawdd ymchwil y Brifysgol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol. 
  • Yn safle 351 yn y byd (i fyny 27 safle) am ei chymhareb myfyrwyr i gyfadran, sy'n mesur faint o fyfyrwyr sydd am bob aelod staff academaidd.

Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy-Is-ganghellor: “Rydym yn hynod falch bod Abertawe bellach ymhlith 400 o brifysgolion gorau’r byd. Mae hyn, gyda'n safleoedd uchel cyson mewn arolygon annibynnol eraill a thablau cynghrair am foddhad myfyrwyr, cyflogadwyedd, a rhagoriaeth ymchwil, yn cadarnhau bod Prifysgol Abertawe yn parhau i godi i’r entrychion ac yn prysur ennill enw da am ragoriaeth yn rhyngwladol.”

Adlewyrchir llwyddiant parhaus Abertawe yn y canlyniadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar:

  • Cyrhaeddodd Prifysgol Abertawe ei uchelgais i fod yn y 30 uchaf o brifysgolion ymchwil y DU, gan neidio i safle 26 o safle 52 yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. 
  • Dyfarnwyd 5 seren i'r Brifysgol gan QS Stars, system graddio ansawdd a gydnabyddir yn fyd-eang, sy'n golygu bod y sefydliad yng nghwmni prifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd. 
  • Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd yr 8fed safle yn y DU am foddhad myfyrwyr yn ôl canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) diweddaraf. 
  • Mae’r Brifysgol yn 15 uchaf y DU am ragolygon myfyrwyr.

Mae campws gwyddoniaeth ac arloesed y brifysgol, Campws y Bae, yn agor yn swyddogol ar ddydd Llun, 21 Medi. Mae’r datblygiad, sydd werth £450 miliwn, yn un o brosiectau economi wybodaeth mwyaf y DU, ac o fewn y pump uchaf yn Ewrop.

“Bydd Campws y Bae yn ein galluogi i ehangu ein partneriaethau strategol rhyngwladol. Mae’r partneriaethau hyn y cynnwys y bartneriaeth Abertawe-Tecsas, Université Joseph Fourier yn Grenoble, a’r bartneriaeth a arwyddwyd gydag Universiti Malaysia Pahang yn ddiweddar. 

"Mae'r partneriaethau hyn yn dwyn ynghyd meddyliau academaidd uchaf i gyfnewid syniadau a hwyluso ymchwil o'r radd flaenaf ar y cyd tra hefyd yn darparu cyfleoedd rhagorol i’n myfyrwyr  weithio neu astudio dramor a gefnogir gan dros 100 o bartneriaethau prifysgol ledled y byd.

 “Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain y bydd Gŵyl Wyddoniaeth Prydain 2016 yn cael ei chynnal ym mhrifysgol Abertawe. Bydd yr Ŵyl yn ddathliad bywiog o wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, a fydd unwaith eto yn rhoi llwyfan i’n hymchwil o'r radd flaenaf.

“Rydym yn edrych tuag at y flwyddyn academaidd 2015-2016 yn llawn cyffro. Mae ein llwyddiant parhaus fel Prifysgol Abertawe mynd i mewn i gyfnod newydd ac mae'n addo i ddod â ni  yn nes at wireddu ein huchelgais o ddod yn y 200 uchaf o brifysgolion byd-eang."

Am ganlyniadau llawn QS World University Rankings® 2015/2016 clicwch yma.