Gweithdy Brecwast NVI Cymru: Datblygu Cynnyrch neu Wasanaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Trefnir y digwyddiad hwn gan Nod Cymru Deorfa Rithwir Genedlaethol Cisco (NVI Cymru), ac mae'n rhan o rwydwaith rithwir y DU sy'n torri tir newydd, wedi'i leoli yn ehi2 yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe.


Gweithdy Brecwast NVI Cymru: Datblygu Cynnyrch neu Wasanaeth

Siaradwr: Alan Mumby. Mae Alan yn ymgynghorydd dylunio ac arloesi â phrofiad sylweddol o ddarparu a rheoli datrysiadau creadigol ac arloesol i fusnesau ar draws Cymru.


Dyddiad: Dydd Iau, 27 Tachwedd 2014

Amser: 8:30am tan 10:30am

Lleoliad: Gwesty'r Village, Abertawe

Cost: Am ddim i gwmnïau cychwynnol a BBaChau

I gadw lle: www.eventbrite.co.uk/e/developing-a-product-or-service-breakfast-workshop-tickets-13455466663


Mae a wnelo busnes fel arfer â chynnig cynnyrch neu wasanaeth i rywun sy'n teimlo ei fod gwerth talu amdano - syml. Y ffaith yw, nid oes gan faint go iawn y busnes unrhyw gysylltiad â llwyddiant neu fethiant y fenter. Mae datblygu cynnyrch neu wasanaeth yn llwyddiannus yn fwy tebygol o ddibynnu ar arloesedd, defnyddio gwybodaeth am y farchnad hyddysg a chymhwysiad dyluniad.

Yn y gweithdy hwn byddwn yn ystyried sut y mae'r elfennau allweddol hyn yn sylfaenol o ran dyluniad cynnyrch, darpariaeth gwasanaeth masnachol a datblygiad brand llwyddiannus.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael, ac mae cadw lle ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer y gweithdy am ddim hwn.