Ymchwilwyr yn canfod nad yw rhywogaeth o blancton môr yn addasu i newid hinsawdd – ac y gallent ddiflannu’n gyfan gwbl

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil sydd wedi’i harwain gan wyddonwyr o’r Sefydliad Gwyddor Bywyd a Choleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Deakin yn Warrnambool, Awstralia a Sefydliad Gwyddorau Eigion Syr Alistair Hardy yn Plymouth, wedi canfod nad yw plancton môr dŵr oer yn addasu i newid hinsawdd, y byddant yn parhau i fynd yn fwy prin, ac y gallent ddiflannu yn y pen draw.

Calanus2Mae gwaith y tîm, sydd wedi’i gefnogi trwy gyllid gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), wedi’i gyhoeddi gan y cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw Global Change Biology heddiw (dydd Gwener, Hydref 18), mewn papur o’r enw ‘Multi-decadal range changes versus thermal adaptation for north east Atlantic oceanic copepods in the face of climate change’.

Meddai prif awdur y papur Stephanie Hinder, myfyriwr PhD yn Adran y Gwyddorau Biolegol Prifysgol Abertawe, y Coleg Gwyddoniaeth: “Mae yna dystiolaeth lethol bod y cefnforoedd yn cynhesu. Bydd ymatebion anifeiliaid a phlanhigion i’r cynhesu hwn i raddau helaeth yn llywio sut y bydd y cefnforoedd yn edrych mewn blynyddoedd i ddod a natur pysgodfeydd byd-eang.

“Mae’n adnabyddus yn eang bod rhywogaethau dŵr cynnes yn ehangu eu hamrediad wrth i gynhesu ddigwydd ac i’r gwrthwyneb. Fodd bynnag, mae p’un ai y mae rhywogaethau’n gallu addasu i dymereddau newydd yn amwys.  

Calanus3 CPR“A fydd rhywogaethau dŵr oer, er enghraifft, yn addasu’n raddol fel eu bod yn gallu gwrthsefyll moroedd sy’n cynhesu ac ni fydd rhaid iddynt felly gyfangu eu hamrediad drwy’r amser? Nid yw ateb y cwestiwn hwn o addasu’n hawdd gan fod angen arsylwi tymor hir dros gyfnod o sawl cenhedlaeth.”

Meddai’r cyd awdur Mike Gravenor, Athro mewn Bioystategau ac Epidemioleg yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r tîm wedi archwilio cyfres 50 mlynedd o hyd o Ogledd y Cefnfor Iwerydd ar ddosraniad a helaethrwydd dwy rywogaeth o gramenogion plancton sy’n gyffredin iawn ond yn wahanol i’w gilydd o’r enw copepodau. Mae un rhywogaeth yn byw mewn dŵr sy’n gynnes a’r llall mewn dŵr sy’n oer. Mae’r cramenogion hyn yn fwyd hanfodol i bysgod ac felly’n sail i nifer o bysgodfeydd masnachol yn rhanbarth Gogledd y Cefnfor Iwerydd.

“Yn rhyfeddol, mae’r rhywogaeth dŵr oer, Calanus finmarchicus, wedi parhau i gyfangu ei hamrediad dros 50 mlynedd o gynhesu. Mewn geiriau eraill, hyd yn oed dros 50 cenhedlaeth (mae pob copepod yn byw am flwyddyn neu lai) does dim tystiolaeth o addasu thermol.

Calanus1“Mae canlyniadau’r astudiaeth hon yn ddifrifol. Mae’n awgrymu y bydd plancton dŵr oer yn parhau i fynd yn fwy prin wrth i’w hamrediad gyfangu i’r pegynau a diflannu yn y pendraw. Felly, yn sicr yn achos yr anifeiliaid hyn, nid yw addasu thermol yn debygol o leihau effaith newid hinsawdd.”