Myfyrwyr yn ennill lle ar ddiwrnod hyfforddi’r diwydiant Cyfyngau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau fyfyriwr sy’n dilyn gradd yn y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe wedi eu dewis i ddilyn hyfforddiant gan Academi’r BBC fel rhan o fenter newydd sy’n rhoi hwb i yrfa yn y maes darlledu.

Bydd y myfyrwyr, Siwan Raymant a Rebecca Davies, sydd yn dilyn cwrs gradd BA Cymraeg a’r Cyfryngau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol,  yn derbyn diwrnod o hyfforddiant arbenigol dan gynllun Fast Train Cymru sy’n cael ei redeg gan Academi’r BBC a Creative Skillset. 

Cynhelir hyfforddiant Fast Train Cymru, sydd wedi ei anelu at weithwyr llawrydd ym myd y cyfryngau yng Nghymru, yng Nghanolfan Ddarlledu’r BBC yng Nghaerdydd ar Dachwedd 7fed. Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar feysydd drama, ffeithiol ac adloniant  ac yn  cynnwys dosbarthiadau meistr, gweithdai ac arddangosfeydd technegol, lle bydd modd i’r myfyrwyr dderbyn gwybodaeth gan arbenigwyr yn y maes.

Meddai Siwan Raymant, un o’r myfyrwyr a ddewiswyd i fynd ar y cwrs, ac sy’n dod yn wreiddiol o Forfa Nefyn, ger Pwllheli: “Rwy'n credu fy mod i’n gallu elwa’n fawr oherwydd bydd yn agoriad llygad ac yn cyflwyno gwahanol agweddau'r diwydiant i mi ac yn helpu i mi benderfynu pa gyfeiriad hoffwn i fynd ati yn y dyfodol. Credaf fod hyn yn gyfle gwych i mi gael gafael a’r gwahanol agweddau’r byd cyfryngau, ac i gael cyfle i gwrdd â phobl broffesiynol yn y maes, a chlywed yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud am eu profiadau. Dw i'n gyffrous iawn am gael bod yn rhan o'r cwrs, a dw i'n credu'n gryf all hyn helpu fi ddatgan yn union beth hoffwn i wneud yn y dyfodol. “

Meddai Non Vaughan Williams Darlithydd mewn Cyfryngau Digidol, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe: “Am y tro cyntaf eleni mae’r  hyfforddiant hwn yn cael ei gynnig i’n myfyrwyr ni sydd ar fin dechrau ar eu gyrfa ym myd teledu, radio neu’r cyfryngau newydd. Bydd yn cynnig hyfforddiant amhrisiadwy gan arbenigwyr  o fyd y cyfryngau ar sgiliau fel golygu, adrodd stori, cyfarwyddo a golygu, yn ogystal â chyngor ar yrfa yn y cyfryngau.

“Rydym ni’n falch iawn o’r cyd-weithio hwn rhwng y Brifysgol a’r diwydiant ac yn hyderus bydd hyn yn ychwanegu at sgiliau’r myfyrwyr ac yn ategu at eu cyflogadwyedd ar gyfer swyddi yn y dyfodol.”