Cynghrair Meddalwedd Cymru yn cefnogi Cynhadledd iOS

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi iOSDevUK, cynhadledd ryngwladol a ddisgrifiwyd gan y blogiwr, Ray Wenderlich, yn un o'r "10 cynhadledd iOS bwysicaf yn 2013".

Am y drydedd flwyddyn, cynhelir y gynhadledd yn Aberystwyth, tref brifysgol ar lan y môr yng Nghymru. Mae dros 200 o ddatblygwyr meddalwedd o ledled y byd, gan gynnwys yr Ariannin a Maleisia, wedi rhag-gofrestru ar gyfer y digwyddiad, gan lenwi pob lle sydd ar gael. Cynhelir y gynhadledd rhwng 3 a 5 Medi ar gampws y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Chris Price, o'r Adran Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n un o brif drefnwyr iOSDevUK: "Mae tîm iOSDevUK yn edrych ymlaen at groesawu'n ôl y datblygwyr meddalwedd - dibrofiad ac arbenigol - sy'n awyddus i rannu eu gwybodaeth a'u sgiliau gyda chymuned o bobl o'r un bryd.

"Mae cymaint o bobl ddiddorol a dyfeisgar yn creu Apps ar gyfer yr iPhone, felly braf yw casglu cymaint ohonynt ynghyd yn Aberystwyth ar gyfer y gynhadledd."

Mae'r siaradwyr allweddol yn cynnwys Dave Addey, Rheolwr Gyfarwyddwr Agant.  Bydd yn rhannu ei brofiad o ddatblygu'r app poblogaidd Amseroedd Trên yn y Deyrnas Unedig.  Un arall fydd Matt Galloway, sylfaenydd Swipe Stack.  Mae Swipe Stack yn gwmni sydd wedi datblygu nifer o'r Apps iPhone sydd wedi ymddangos ar restr gystadleuol a phroffidiol Apple o'r "Apps Gorau".

Ar ben hynny, caiff cynrychiolwyr eu gwahodd i fynychu cyfres o weithdai technegol a busnes a drefnir gan Gynghrair Meddalwedd Cymru.  Mae'r Gynghrair yn brosiect gwerth miliynau o bunnoedd a arweinir gan Brifysgol Abertawe ac a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Fel yr oedd Chris Loftus, Cymrawd Dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Datblygwr Cyrsiau ar gyfer Cynghrair Meddalwedd Cymru, yn esbonio: "Cydamcan iOSDevUK a Chynghrair Meddalwedd Cymru yw helpu datblygwyr meddalwedd i rannu eu profiadau ac i ddatblygu sgiliau newydd.

"Trwy gydweithio, gallwn nodi anghenion hyfforddi'r gymuned hon at y dyfodol, ac, yn y diwedd, helpu Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau amlwg a chynyddol ym maes TGCh."

I lawer o'r rhai fydd yn mynd i'r gynhadledd, yr uchelbwynt fydd yr "Arduino-iPhone Hack" - cyfle i ddatblygwyr iOS gydweithio i adeiladu teclynnau clyfar, yn seiliedig ar y technolegau diweddaraf, sydd â'r potensial i greu datrysiadau ymarferol i broblemau go iawn.

Dangosir pob teclyn ar ddiwedd y gynhadledd, ac, ar ôl cael eu hadolygu gan gydweithwyr, rhoddir gwobr fach i'r rhai sy'n cyflwyno’r "Syniad Gorau", a'r "Gweithrediad Gorau" i gydnabod eu cyflawniad.       

Dywedodd Chris Price wrth gloi: "Mae iOSDevUK yn gyfle gwych i gwrdd â chyfeillion a chydweithwyr, i glywed darlithoedd diddorol ac ysgogol, i ddysgu sgiliau newydd, ac, nid yn lleiaf, i fod yn rhan o'r 'Arduino-iPhone Hack' fydd yn ddiweddglo i'r gynhadledd eleni."