Cyflenwad dŵr glân i'r byd: Academydd i gadeirio cynhadledd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd academydd o Brifysgol Abertawe'n cadeirio'r gynhadledd ryngwladol gyntaf erioed ar ymateb i'r galw byd-eang am ddŵr yfed cynaliadwy trwy ddefnyddio techneg ddihalwyno trwy bilenni mewn modd ynni-effeithlon.

Professor Hilal NidalYr Athro Nidal Hilal, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwch Dechnolegau Dŵr ac Ymchwil Amgylcheddol ym Mhrifysgol Abertawe fydd cadeirydd y Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Ddihalwyno trwy Ddefnyddio Technoleg Bilen, a gynhelir yn Sitges, yn Sbaen, rhwng 7 a 10 Ebrill.

Adnabyddir yr Athro Hilal fel arbenigwr rhyngwladol blaenllaw mewn technolegau dihalwyno a philenni, sy'n helpu i fynd i'r afael â'r broblem fawr o brinder dŵr.  Mae ei ymchwil yn hybu datblygu dulliau newydd o ddarparu ymatebion ynni-effeithlon lleol i anghenion dŵr, trwy dynnu halen ac amhureddau o ddŵr y môr a dŵr gwastraff.

Bydd y gynhadledd yn trafod ymchwil damcaniaethol a chymhwysol arloesol, yn ogystal â datblygiadau technolegol a diwydiannol.

Bydd cynrychiolwyr yn cynnwys ymchwilwyr academaidd blaenllaw, gwyddonwyr, a pheirianwyr o'r diwydiannau dihalwyno â philenni a diwydiannau perthynol, yn ogystal â chynrychiolwyr o lywodraethau neu sefydliadau, asiantaethau rhyngwladol, a sefydliadau cymorth.

Dywedodd yr Athro Hilal: "Dwi'n hynod o falch o gadeirio'r gynhadledd hon, fydd yn trafod materion syddo o bwys mawr yn y byd sydd ohoni. Mae diffyg dŵr glân yn achosi miliynau o farwolaethau bob blwyddyn mewn gwledydd tlotach, tra bod y galw am ddŵr glân mewn gwledydd cyfoethog yn cynyddu'n gyson.

"Hefyd, mae'r gynhadledd hon yn amlygu'r ffaith fod yn rhaid i ni'r peirianwyr barhau i chwilio am ddulliau effeithlon newydd o ddarparu dŵr, ac o warchod y cyflenwad cynaliadwy o ddŵr glân at y dyfodol."