Ymchwilwyr Abertawe’n gweithio mewn symudiad pinser â phartneriaid yr UE er lles y diwydiant corgimwch

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil Morol Cynaliadwy Prifysgol Abertawe (CSAR) yn rhan o brosiect rhyngwladol newydd ar y cyd gwerth €2.4M (oddeutu £1.9M) i ddatblygu a gwella cynaliadwyedd pysgodfeydd corgimwch yr Undeb Ewropeaidd.

prawn2 Y rhywogaeth Nephrops norvegicus, a adweinir hefyd fel ‘Corgimwch Bae Dulyn’, ‘langwstîn’ neu ‘sgampi’, bydd y canolbwynt arbennig ar gyfer NEPHROPS, sy’n dod ag arbenigedd ynghyd o’r diwydiant pysgota, technolegwyr acwafeithrin a’r byd academaidd.

Y rhywogaeth hon yw un o bysgod cregyn mwyaf gwerthfawr Ewrop, gyda 34,000 tunnell - gwerth £100M - wedi’i dal y llynedd yn y DU yn unig.

Mae’r prosiect, a arweinir gan Gymdeithas Pysgodfeydd Orkney a Sefydliad Ryan ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway, ac sy’n cynnwys prifysgolion a phartneriaid diwydiannol o’r DU, Norwy, a Sweden, yn canolbwyntio ar ddatblygu technolegau deorfeydd a ffermio, a gwella cyfraddau goroesi y creaduriaid deflir yn ôl i’r môr o ganlyniad i bysgota treillio.

Mae’r Ganolfan Ymchwil Morol Cynaliadwy (CSAR), a leolir yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, yn chwarae rôl bwysig wrth ddatblygu deorfa ar raddfa beilot ar gyfer y rhywogaeth a fydd yn arwain at gyhoeddi llawlyfr deorfeydd a fydd ar gael yn gyhoeddus.

prawn1 Mae’r Ganolfan wedi gweithio gydag arweinwyr y Prosiect, Cymdeithas Pysgodfeydd Orkney, yn y gorffennol i optimeiddio gweithredoedd deorfeydd ar gyfer cefndir mwy'r sgampi, y Cimwch Ewropeaidd Homarus gammarus.

Meddai Dr Adam Powell, arweinydd y prosiect ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae technegau ar gyfer meithrin Cimychiaid Ewropeaidd eisoes yn gymharol ddatblygedig. Fodd bynnag, mae gwaith hyd yma gyda Nephrops wedi bod yn fwy cyfyngedig ac ar raddfa lai yn gyffredinol.

“Caniateir i oedolion benywaidd silio, a chaiff larfau eu magu drwy dri cham olynol. Ar ôl tua 30 diwrnod, mae’r larfau yn trawsnewid yn gorgimychiaid ifainc.  Caiff y broses ei phrofi yn CSAR a’i chynnal ar raddfa fwy yn Orkney, gyda’r nod o ryddhau niferoedd o’r corgimychiaid ifainc a gasglwyd yn y tymor canolig. 

“Mae CSAR, gyda chydweithwyr o ar draws Ewrop, yn edrych ymlaen at ddatblygu deorfa ar gyfer y rhywogaeth hon.”

Am ragor o wybodaeth ar y prosiect NEPHROPS, ewch i www.nephrops.eu, ac am wybodaeth ar CSAR ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i http://www.aquaculturewales.com/.