Planet Earth Online NERC: Mae maint yn bwysig yng nghyswllt effeithiau asideiddio’r môr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae erthygl yn Planet Earth Online a gyhoeddwyd gan Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ar hyn o bryd yn amlygu ymchwil yr Athro Kevin Flynn o Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy Prifysgol Abertawe.

Yr Athro Flynn yw prif awdur yr astudiaeth “Changes in pH at the exterior surface of plankton with ocean acidification”, a gyhoeddwyd ar-lein yn ddiweddar gan y cyfnodolyn blaenllaw Nature Climate Change.

Mae’r astudiaeth yn amlinellu sut y gall newid yng nghemeg y môr, o ganlyniad i gynhesu byd-eang, greu bygythiad i organebau megis plancton morol ar raddfa fwy nag y tybiwyd o’r blaen.

Ariannwyd yr astudiaeth yn bennaf gan NERC, ac roedd awduron y prosiect hefyd yn cynnwys gwyddonwyr o Labordy Morol Plymouth, y Gymdeithas Fiolegol Forol, a Phrifysgol Dundee yn y DU ac o Brifysgol Technoleg Sydney, a Phrifysgol Monash, Fictoria yn Awstralia.