Campws newydd Prifysgol Abertawe gam yn nes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn natblygiad ei Champws Gwyddoniaeth ac Arloesedd newydd sbon.

2nd Campus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r Cyngor (corff llywodraethol y Brifysgol) wedi cytuno y bydd y Brifysgol yn parhau â cham olaf y broses gaffael a bydd St Modwen a’u partner adeiladu, Vinci yn disgwyl cynnig manwl erbyn yr hydref.

Os fydd y trafodaethau hyn yn llwyddiannus ac yn dilyn cymeradwyo caniatád cynllunio, bydd y gwaith yn cychwyn yn gynnar yn ystod 2013 a’r campws newydd yn barod i groesawu myfyrwyr yn Hydref 2015.

Bydd gan Gampws Gwyddoniaeth ac Arloesedd Bae Abertawe ran allweddol i chwarae yn y gwaith o adeiladu economi wybodaeth Cymru, sicrhau bod y rhanbarth yn lleoliad llawn bwrlwm ar gyfer technoleg uwch yn ogystal â chynorthwyo’r Brifysgol i gyrraedd ei huchelgais o fod ar flaen y gad ym maes ymchwil ac arloesi. Bydd hefyd yn siŵr o gyfrannu at adfywiad economaidd rhanbarth De orllewin Cymru.

Meddai Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies: ‘‘Mae penderfyniad y Cyngor yn gam sylweddol ymlaen yn natblygiad y cynllun uchelgeisiol hwn, ac yn ein galluogi i barhau tuag at ddiwedd y broses gaffael.

‘‘Bydd y datblygiad yn galluogi’r Brifysgol i ymestyn ei ffiniau cyfyng presennol, ein caniatáu i gyflymu ein strategaeth twf a gwneud y mwyaf o’n harbenigedd ym maes ymchwil a’n partneriaethau gyda chwmnïau cenedlaethol o fri.

‘‘Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gwaith ailddatblygu ein campws presennol.

"Bydd y ddau gampws yn hybu twf mewn clystyrau technoleg uwch ar gyfer yr economi ddigidol, gwyddorau bywyd a pheirianneg ac o ganlyniad yn cyfrannu’n helaeth tuag at adfywiad economaidd yr ardal a thu hwnt.’’