Blog Ymchwil – Gwanwyn seismig:Ymgyrch maes geoffisegol ar Storglaciären, Sweden

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Dr Adam Booth, ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth yng Ngrwp Rhewlifeg Prifysgol Abertawe, yn teithio i ogledd Sweden yfory (Dydd Gwener 23 Mawrth), i arwain tîm o geoffisegwyr o’r DU ar ymgyrch bythefnos o ymchwiliadau seismig ar rewlif mynydd Storglaciären.

Dr Adam Booth Bydd y tîm, sy'n cynnwys yr Athro Tavi Murray a’r fyfyrwraig PhD Charlotte Axtell, hefyd o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, a Dr Roger Clark o'r Sefydliad Geoffiseg a Thectoneg ym Mhrifysgol Leeds, yn gweithio o Orsaf Ymchwil Tarfala, gyda chymorth cynllun INTERACT a ariennir gan yr UE.

Mae rhewlif Storglaciären, sydd tua 150km i’r gogledd o’r Cylch Arctig yng nghysgod Kebnekaise, mynydd uchaf Sweden, yn 3.2km o hyd,  ac hyd at 230m o drwch.

Mae ymchwil ar rewlifoedd mynydd o'r fath yn bwysig er mwyn deall y newid yn yr hinsawdd. Yn 2007, dywedodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) fod eu toddiant yn cyfrannu mwy i’r cynnydd byd-eang yn lefel y môr na thoddiant haenau iâ mwy o faint yn yr Ynys Las ac yn yr Antarctig.

Yn arbenigwr ar gymhwyso dulliau geoffisegol - yn benodol rhai seismig a radar – ar gyfer problemau rhewlifegol, mae Dr Booth yn defnyddio geoffiseg i fesur trwch rhewlif, ac i fesur priodweddau ffisegol amrywiol y rhew a'r deunydd y mae'n eistedd arno.

Mae gwaith Dr Booth wedi cael ei ariannu gan Gonsortiwm Newid Hinsawdd  Cymru (prosiect C3W), ac fe fydd yn blogio o’r maes ar GeoLog, blog swyddogol yr Undeb Gwyddorau Daear Ewropeaidd: http://egugeolog.wordpress.com/2012/03/20/seismic-spring-a-geophysical-field-campaign-on-storglaciaren-sweden/.

Gallwch hefyd ddilyn Grwp Rhewlifeg Prifysgol Abertawe ar Twitter @SUGlaciology.