Ysgol Feddygaeth yn dathlu ei graddedigion gorau mewn rhaglenni newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn dathlu wrth i'w myfyrwyr cyntaf raddio o ddwy raglen newydd.

Dyfarnwyd graddedigion carfan gyntaf yr Ysgol Feddygaeth o'r rhaglenni BSc Gwyddorau Meddygol Cymhwysol a MSci Biocemeg a Geneteg â'u graddau mewn seremoni yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae newydd y brifysgol yr wythnos hon. 

600 x 273

Bu i'r Ysgol Feddygaeth, sydd mewn gwirionedd yn hyfforddi mwy o wyddonwyr bywyd na meddygon, gyflwyno ei rhaglenni israddedig newydd yn 2016 i sicrhau bod myfyrwyr yn ennill sylfeini cryfion yn y wyddoniaeth sy'n sail i feddygaeth.  

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth: "Y rheswm yr ydym yn un o'r ysgolion meddygaeth gorau yw oherwydd ein bod yn cymryd y wyddoniaeth sy'n sail i feddyginiaeth o ddifrif. 

"Rydym yn gwneud pethau'n wahanol yn Abertawe a dyma pam yr ydym wedi dringo'r tablau cynghrair yn aruthrol o sydyn yn y blynyddoedd diweddar. Mae llwyddiant ein rhaglenni MSci Gwyddorau Meddygol Cymhwysol a Biocemeg a Geneteg yn brawf o hynny. 

"Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yw un o'r cyrsiau graddau israddedig mwyaf llwyddiannus yma ym Mhrifysgol Abertawe. 

“Un o'i nodweddion unigryw yw'r tair agwedd cyflogadwyedd. Golyga hyn bod ein myfyrwyr yn gallu dewis yn eu hail flwyddyn a ydynt am fynd ymlaen i weithio yn y diwydiant, ymgymryd ag ymchwil neu ddod yn feddyg unwaith y byddant wedi cwblhau eu hastudiaethau." 

Ychwanegodd yr Athro Lloyd:"Hoffwn longyfarch holl raddedigion ein Hysgol Feddygaeth a dymuno dyfodol disglair iawn iddynt. Gobeithiwn y byddant yn edrych yn ôl yn annwyl ar eu hamser yma yn Abertawe." 

Mae cyfanswm o 47 myfyriwr wedi graddio'r wythnos hon o'r ddwy raglen newydd ac mae'r cwbl wedi canmol eu hamser yn astudio yn Abertawe. 

Mae Jemima Jones, o Gydweli, sydd wedi graddio gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, bellach yn mynd ymlaen i astudio meddygaeth ym mis Medi. 

Dywedodd Jemima: "Dewisais astudio Gwyddorau Meddygol Cymhwysol oherwydd bod y darlithwyr mor groesawgar a chyfeillgar pan ymwelais â'r lle ar ddiwrnod agored. Roedd hyn yn fwy na gwir trwy gydol fy nhair blynedd yn Abertawe. Rheswm sylweddol arall oedd oherwydd ei fod yn cynnig y tair agwedd cyflogadwyedd ym mlwyddyn 2. 

"Roeddwn yn ansicr ynglŷn â pha yrfa yr oeddwn am ei dilyn ar ôl fy astudiaethau Safon Uwch ac mae'r cwrs hwn wedi bod yn help i mi benderfynu hynny - rwyf nawr yn mynd ymlaen i astudio Meddygaeth ym mis Medi ac ni allaf ddisgwyl." 

Mae Gloria Prince, o Reading, a oedd hefyd yn astudio Gwyddorau Meddygol Cymhwysol wedi ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Yn ogystal, enillodd Gloria Wobr Raddedig Dr R Jenkins yr Ysgol Feddygaeth am y perfformiad academaidd gorau. 

Dywedodd Gloria: "Pan gefais fy nghanlyniadau Safon Uwch roeddwn yn ofn na fyddwn yn gallu mynd i'r brifysgol, ond gwnes gais drwy'r broses Glirio yn Abertawe a thair blynedd yn ddiweddarach, nid yn unig yr wyf wedi cwblhau fy ngradd - rwyf bellach yn paratoi i astudio Meddygaeth yn Abertawe. Rwyf wedi gwirioni'n lân." 

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ymysg y 3 Ysgol Feddygaeth orau yn y DU ac mae hi hefyd y gorau yng Nghymru am Feddygaeth a Gwyddorau Biolegol (The Times and Sunday Times Good University Guide 2019). 

Dywedodd yr Athro Lisa Wallace, a greodd y rhaglen Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn 2016, ei bod yn hynod falch o gyfradd llwyddo ei charfan gyntaf o fyfyrwyr. 

Dywedodd yr Athro Wallace: "Rydym yn ofnadwy o falch o bob un o'n grŵp cyntaf o raddedigion Gwyddorau Meddygol Cymhwysol a'r gwyddonwyr y maent wedi datblygu iddynt. Maent wedi gweithio mor galed ac mae gan bob un ohonynt ddyfodol anhygoel o'u blaenau - mewn gwyddoniaeth, meddygaeth a thu hwnt. 

"Rydym wedi cael yr anrhydedd o'u gweld yn tyfu a llwyddo dros y tair blynedd diwethaf a dymunwn y gorau iddynt i'r dyfodol." 

Ychwanegodd Dr Paul Facey, uwch ddarlithydd Biocemeg a Geneteg: "Mae gan ein rhaglen MSci gyfradd llwyddo o 100% eleni, gyda naw o'n graddedigion yn ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. 

“Mae nifer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaethau PhD sy'n dangos y ddawn ymchwil gwyddonol yr ydym yn ei magu yma yn yr Ysgol Feddygaeth."