Yr ap sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd – syniad gan fyfyrwyr yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth fyd-eang

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi dyfeisio ap i fynd i'r afael ag unigrwydd wedi cyrraedd rownd derfynol mewn cystadleuaeth ddylunio fyd-eang, a fydd yn cael ei chynnal yn Nhecsas ym mis Ebrill.

Enw'r gystadleuaeth yw "Invent for the Planet." Cynhelir y gystadleuaeth gan Brifysgol A&M Tecsas, ac mae croeso i fyfyrwyr o 31 prifysgol ar draws y byd gymryd rhan ynddi. Prifysgol Abertawe oedd yr unig brifysgol yn y DU a gafodd ei gwahodd i gymryd rhan.

Rhoddir brîff i'r myfyrwyr ddylunio cynnyrch sy'n diwallu angen penodol, megis atal damweiniau angheuol ar y ffyrdd, triniaeth ar gyfer malaria, rhith-wirionedd, sicrhau dŵr glân, rhoi'r gorau i newyddion ffug ac atal unigrwydd. Mae angen iddynt wedyn wneud ymchwil i’r pwnc, dyfeisio cynnyrch, adeiladu prototeip ac yna gyflwyno'r syniad i banel o feirniaid.

Gwnaeth 6 thîm o Brifysgol Abertawe roi cynnig arni ac roedd pob un ohonynt o'r Coleg Peirianneg. Roedd y timau'n cynnwys cyfanswm o 32 myfyriwr o 13 o wledydd. Dyma enwau’r timau: Meducation; TechConnect; Apex Engineering; Drip; Team Mozzy a Super Socials.

Wedi hynny, dewisodd tîm o feirniaid allanol y pump gorau o blith yr holl dimau ar draws y prifysgolion a oedd ynghlwm. Roedd un o'r timau o Brifysgol Abertawe - the Super Socials - ymysg y pum tîm a gafodd eu dewis.

Bydd pum aelod y Super Socials yn hedfan i Decsas ar gyfer y rownd derfynol. Bydd y tîm buddugol yn derbyn gwobr gwerth $3000.

600 x 264

Llun:  Tim Super Socials gyda'r Athro Steve Brown (de), pennaeth, Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe

Syniad buddugol y tîm oedd ap sy'n annog cyfranogiad a gweithgareddau cymdeithasol wyneb yn wyneb er mwyn helpu i atal unigrwydd. Gall defnyddwyr ennill pwyntiau drwy gwrdd â phobl newydd a chreu digwyddiadau a chymryd rhan ynddynt. Yna gellir cyfnewid y pwyntiau hyn am eitemau neu mewn busnesau lleol.

Meddai Tofazzal Rashid, aelod o'r tîm buddugol

"Mwynheais yn fawr y profiad cyfan a gweithio fel rhan o dîm. Roedd datblygu ein cysyniad o syniad yn unig i ddyluniad cyfan yn broses cyffrous a diddorol iawn. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at ymweld â Thecsas a chyflwyno ein cysyniad i gynulleidfaoedd newydd yno."

Mae llwyddiant y tîm yn y gystadleuaeth hon yn gynnyrch arall sydd wedi deillio o'r bartneriaeth ffyniannus y mae Prifysgol Abertawe wedi'i meithrin â phrifysgolion yn Nhecsas, megis A&M. Mae'r bartneriaeth hefyd yn cynnwys cynlluniau cyfnewid myfyrwyr a chydweithrediadau ymchwil mewn meysydd megis nanofeddygaeth.

Dywedodd Dr Caroline Coleman-Davies, sy'n rheoli partneriaeth Tecsas ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae Prifysgol A&M Tecsas yn brifysgol o fri rhyngwladol y mae gennym bartneriaeth hirsefydlog â hi, ac roeddwn yn hynod gyffrous i helpu o ran cyflawni Invent for the Planet yn Abertawe unwaith eto.

Mae'r cyfle i weithio mewn timau amlddisgyblaethol a rhyngweithio â chyfranogwyr o bedwar ban byd yn gyfle unigryw i’n myfyrwyr yn ogystal â'r cyfle i deithio i Decsas i gystadlu yn y rownd derfynol fyd-eang. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at fynd gyda'r grŵp i Decsas ac rwy'n disgwyl yn eiddgar i’w cefnogi yn y rownd derfynol."

Invent for the Planet - all entrants 2019Llun: aelodau o'r timau Prifysgol Abertawe

Meddai'r Athro Steve Brown, Pennaeth Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe:

"A minnau'n aelod o banel beirniadu Invent for the Planet, gwnaeth y cysyniadau, y prototeipiau a'r cyflwyniadau y llwyddodd pob un o'n timau eu creu mewn 48 awr greu argraff arnaf. Roeddwn i wrth fy modd bod tîm buddugol o Abertawe wedi'i ddewis i gymryd rhan yn rownd derfynol Invent for the Planet yn Nhecsas a dymunaf bob llwyddiant iddynt!"

Ychwanegodd Kelly Jordan, Swyddog Mentergarwch Prifysgol Abertawe:

"Cefais fy syfrdanu gan y syniadau arloesol a’r ffordd y gwnaeth y myfyrwyr gyflwyno eu hunain a'u syniadau dros y penwythnos. Mae hyn yn dangos pa mor entrepreneuraidd ydynt. Roedd yn fraint bod yn rhan o’r digwyddiad ac rwy'n gobeithio bod y myfyrwyr wedi dysgu’r un faint o'm dylanwad i ag y gwnes i o'u dylanwad nhw."

Texas exchange students 2019