Ymunwch â JellyWatch Prydain Fawr dros benwythnos gŵyl y banc!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn Gorffennaf, daeth Cymrawd Prifysgol Abertawe a chyflwynydd bywyd gwyllt y BBC, Lizzie Daly, ar draws sglefren fôr anferth yn ystod #WildOceanWeek.

Lizzie Daly with giant barrel jellyfish courtesy of Dan Abbott

Ysbrydolwyd pobl ledled y byd gan y lluniau a’r fideo o Lizzie Daly yn nofio gyda’r cawr tyner hwn, a gymerwyd gan gamera tanddwr Dan Abbot.

Yn sgil hyn, codwyd cwestiynau am sglefrod môr yn nyfroedd y DU, a’r penwythnos hwn, mae Lizzie, ar y cyd a’r arbenigwr sglefrod môr, Dr Nick Fleming o Brifysgol Abertawe a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, yn gwahodd pob un ohonom i’r penwythnos JellyWatch Prydain Fawr cyntaf!

Cynhelir JellyWatch Prydain dros dridiau penwythnos gŵyl y banc (24 – 26 Awst), a gofynnir i aelodau'r cyhoedd ar draws y Deyrnas Unedig fynd i'w traeth lleol i weld faint o sglefrod môr maen nhw’n gallu dod o hyd iddynt.

Sefydlwyd menter JellyWatch ar y cyd â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS), sy'n cynnal Arolwg Sglefrod Môr gydol y flwyddyn – y mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig – sy'n helpu ymchwilwyr i fonitro tueddiadau ac i ddeall ymddygiad sglefrod môr.

Meddai Dr Peter Richardson, Pennaeth Adfer Cefnforol MCS: "Mae sglefrod môr wedi bod yn nofio yn ein cefnforoedd am dros 500 miliwn o flynyddoedd - maent yn fanteiswyr gwych, gan atgenhedlu mewn niferoedd mawr iawn pan fo'r amodau'n gywir, felly gallant ddysgu llawer i ni am gyflwr ein moroedd. Mae'n wych gallu gweithio gyda Lizzie Daly a Phrifysgol Abertawe ar gyfer penwythnos JellyWatch Prydain Fawr â'n Harolwg Sglefrod Môr gydol y flwyddyn. O ganlyniad, gallwn ddysgu rhagor o’r creaduriaid anhygoel, hynafol hyn."