Y Brifysgol yn dathlu gwyddonwyr benywaidd arloesol ac artist lleol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Datglodd yr Uwch-ddirprwy Is-ganghellor, yr Athro Hilary Lappin-Scott, bortread o'r Athro Florence Annie Mockeridge, a oedd yn ffigwr allweddol yn y Brifysgol rhwng 1922 a 1954.

Yr artist portreadau a murluniau lleol, Kenneth William Hancock, a baentiodd y portread. Ym 1933, fe'i gwobrwywyd â chyd-ddarlithyddiaeth y Coleg Celf Brenhinol.

Mae'r paentiad wedi gadael y storfa ac mae bellach yn cael ei arddangos yn gyhoeddus y tu allan i Ddarlithfa Wallace.

600 x 470

Llun: Yr Athro Hilary Lappin-Scott(chwith) gyda Lowri Cook, merch Kenneth Hancock

Ymunodd yr Athro Mockeridge â'r hyn a oedd yn Brifysgol Coleg Abertawe fel pennaeth yr adran Fioleg. Arhosodd yma tan iddi ymddeol 32 o flynyddoedd yn ddiweddarach, gan oruchwylio newid a datblygiad sylweddol. Datblygodd enw da'r radd er anrhydedd mewn Botaneg, gan gyfarwyddo gwaith cyfres o fyfyrwyr ymchwil ac ymdrechu i gyflawni addysgu o'r radd flaenaf, er gwaethaf y cyfleusterau annigonol.

Cydnabuwyd rhagoriaeth ac arweinyddiaeth Florence pan gafodd swydd Deon y Gyfadran Wyddoniaeth rhwng 1933 a 1935, ac eto rhwng 1941 a 1943. Fe'i hetholwyd yn athro Botaneg cyntaf y Brifysgol ym 1936, a bu'n ddeiliad y swydd o Ddirprwy-bennaeth y Coleg Prifysgol rhwng 1949 a 1951. Bu hi hefyd yn drysorydd Cyngor Cynrychioli'r Myfyrwyr am flynyddoedd lawer.

Roedd gan yr Athro Mockeridge weledigaeth glir ar gyfer dyfodol yr adran Fioleg, ac roedd yn benderfynol o sefydlu adrannau Botaneg a Sŵoleg ar wahân. Pwysodd am flynyddoedd lawer, a daeth i'r amlwg mai adeilad newydd yn unig a fyddai'n gwneud hynny'n bosib. A dyna'r hyn a fu'n bosib diolch i Florence.

Bu'n rhan hanfodol yng nghamau cynllunio a dylunio'r adeilad Gwyddorau Naturiol newydd, gan gymryd gofal mawr i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer gwaith darganfod ac addysgu gwyddonol modern. Trodd gweledigaeth Florence yn adeilad go iawn pan agorwyd adeilad Wallace yn fuan ar ôl iddi ymddeol. Heddiw, gall myfyrwyr gystadlu o hyd am Wobr Florence Mockeridge mewn Botaneg.

Roedd staff y Brifysgol yn bresennol yn y seremoni, a merch Kenneth, Lowri Cook, a ddywedodd:

"Mae'n bleser o'r mwyaf bod yma a gweld gwaith fy nhad yn cael ei anrhydeddu a'i goleddu gan Brifysgol Abertawe. Mae'r profiad yn fwy melys byth oherwydd y cysylltiad gyda'r Grŵp Cymrodoriaeth Florence Mockeridge anhygoel!"

Meddai'r Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Hilary Lappin-Scott: "Heddiw rydym yn dathlu ac yn coffáu ffigur hynod nodedig ac ysbrydoledig, drwy bortread arbennig gan Kenneth Hancock. Mae hi'n un o'r menywod a luniodd y dyfodol ar gyfer pobl fel ni ac, am hynny, rydym yn hynod ddiolchgar."

Esboniodd Ellie Dawkins o Oriel Gelf Glynn Vivian: "Mae hwn yn un o'r enghreifftiau mwyaf hardd o waith Ken Hancock rydym wedi'u gweld erioed. Dyma ddigwyddiad gwych i anrhydeddu artist eithriadol o ddawnus a menyw o bwys."

Gwnaeth y digwyddiad gyd-fynd â lansiad Grŵp Cymrodoriaeth Florence Mockeridge 2019, sef carfan elît o staff academaidd sy'n derbyn hyfforddiant dwys ar sut i wneud ceisiadau am gyllid ymchwil gan gymrodoriaeth freintiedig a gynhelir gan Wasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi'r Brifysgol. 

Coleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe