Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe, Alex Harold, wedi curo dros 5000 o ymgeiswyr i ennill gwobr ryngwladol am ei gwaith yn defnyddio proteinau’n deillio o facteria pridd i ddatblygu caen wrth-gyrydu newydd ar gyfer dur.
Mae cystadleuaeth Tata Innovista, a drefnwyd gan Tata Group, yn amlygu ac yn gwobrwyo arloesedd mewn ymchwil a datblygu, ar draws holl weithgareddau Tata. Golygodd hyn fod cais Alex yn cystadlu yn erbyn prosiectau o gategorïau megis Tata Steel Europe, Jaguar Landrover a Tata Global Beverages.
O’r 5000 o geisiadau a gyflwynwyd, rhoddwyd 51 o dimau ar y rhestr fer cyn cael eu cynrychioli yn y rownd derfynol ym Mumbai. Cyhoeddwyd mai prosiect Alex oedd enillydd y wobr “Dare to Try”, un o’r deuddeg categori yn y gystadleuaeth.
Llun: Mae'r deunydd yn cadw dwr allan
Mae Alex yn fyfyrwraig ddoethuriaeth peirianneg Dur TATA y DU ym Mhrifysgol Abertawe.
Enw ei phrosiect buddugol oedd ‘Superhydrophobic Coatings from Bacterial Proteins’. Mae deunydd sy’n “hydroffobig” yn ddeunydd sy’n cadw dŵr allan – i bob pwrpas, deunydd sy’n wrth-ddŵr. Mae gan gelloedd bacteria pridd cyffredin nodweddion hydroffobig a defnyddiodd Alex y rhain i ddatblygu’i chaen newydd.
Esboniodd Dr Alex Harold yr ymchwil y tu ôl i’w phrosiect arobryn:
"Roeddem am roi cynnig ar gaen oedd wedi’i hysbrydoli gan natur ac a oedd yn defnyddio cyfansoddion biolegol i ddarparu datrysiad i broblem ddiwydiannol. Yn ogystal â bod yn hydroffobig, mae arwyneb cell bacteria pridd cyffredin (Streptomyces sp.) yn diogelu’r organeb rhag dysychu ac felly symudiad y dŵr ar draws rhwystr y gell.
Yr hyn a wnaethom oedd echdynnu’r bio-ddeunydd hwn a’i doddi i greu toddiant protein a fyddai’n ymgasglu ar hyd rhyngwynebau hydroffobig / hydroffilig. Gan ddefnyddio’r nodwedd hon, llwyddom i gaenu cynhyrchion dur a chynhyrchu caen brotein gadarn a oedd yn llai na 10 nanometr o drwch, a oedd yn gallu gwrthsefyll berwi a rhewi a lleihau’r potensial cyrydu".
Llun: Alex Harold, ymchwilydd
Mae diogelu rhag cyrydu’n hanfodol yn y diwydiant dur, sy’n gweithgynhyrchu cynhyrchion ansawdd uchel a ddefnyddir mewn sectorau megis adeiladu, pecynnu, awyrofod ac awyrennau a’r diwydiant ceir.
Gall y gaen newydd ddarparu dull amgen sy’n fwy ystyriol o’r amgylchedd na’r caenau a ddefnyddir ar hyn o bryd, heb unrhyw golled o ran perfformiad.
Gwobr Alex yw’r enghraifft ddiweddaraf o sgiliau arbenigol Prifysgol Abertawe ym maes ymchwil sy’n gysylltiedig â dur. Mae hefyd yn dangos y bartneriaeth agos rhwng y Brifysgol a Tata, gan gynnwys y ddoethuriaeth mewn peirianneg sy’n cynhyrchu graddedigion tra medrus ar gyfer y diwydiant dur.
Meddai Dr Geertje van Keulen o’r Sefydliad Gwyddor Bywyd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, arweinydd academaidd y prosiect:
“Mae Alex wedi llwyddo i ddatblygu dull cadarn a chyffrous sy’n ystyriol o’r amgylchedd at ddibenion gwrth-gyrydu ar gyfer Dur TATA. Mae ei gwaith wedi’n galluogi i ddatgloi astudiaethau ar bosibiliadau defnyddio deunyddiau eraill: yn ddiweddar rydym wedi derbyn dwy wobr i ariannu ymchwil oddi wrth y Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch i ddatblygu ymhellach ddeunyddiau’n seiliedig ar broteinau ar gyfer y sector Amddiffyn.”
Ychwanegodd y goruchwylydd diwydiannol Dr Jon Elvins:
“Mae agwedd ryngddisgyblaethol y radd hon wedi gweithio’n dda, ac mae wedi darparu cysyniad newydd ar gyfer gwrth-gyrydu”.
- Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2017 14.21 BST
- Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2017 14.21 BST
- Swyddfa Materion Cyhoeddus