Sefydliad Ymchwil Peirianneg gwerth £35 miliwn ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei orffen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cyfleuster ymchwil newydd sy’n arbenigo mewn peirianneg uwch wedi cael ei gwblhau.

Mae’r Sefydliad Arloesol ym maes Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT) yn sefydliad ymchwil peirianneg gwerth £35 miliwn, gyda’r cyfleusterau diweddaraf, ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Mae’n rhan o’r Coleg Peirianneg ac yn darparu lle iddo ehangu’n strategol.

Mae cwblhau’r adeilad yn garreg filltir bwysig tuag at gyflawni gwaith ymchwil IMPACT yn llwyddiannus. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Rhagfyr 2017, gyda dyluniad a luniwyd i gefnogi’r diwydiant peirianneg byd-eang ymhellach â gwaith ymchwil hanfodol, cydweithredol. Mae’r dyluniad trawsffurfiannol yn cyfuno labordai a swyddfeydd i ddarparu amgylchedd cydleoli unigryw ar gyfer partneriaethau rhwng academia a diwydiant.

IMPACT building - completed insideY Tu mewn i'r adeilad IMPACT gwerth £35m

Gan ei bod yn Ganolfan Ragoriaeth, mae IMPACT yn hybu ffrwythloni syniadau ar draws disgyblaethau, gan chwilio am dechnoleg newydd arloesol, trwy gydweithio â chwmnïau mwyaf y Byd a phartneriaid rhanbarthol arloesol. Mae dyluniad adeilad IMPACT yn caniatáu perthnasoedd gwaith agosach, oddi mewn i gyfleuster sy’n cynnig 80 swyddfa i unigolion, canolbwynt gwaith ar gyfer dros 150 o ymchwilwyr, a hefyd 1,600m2 ar ffurf labordy cynllun agored, a digon o le i 50 o gydweithwyr diwydiannol ac academaidd gael eu cydleoli.

Mae gan AHR, y practis pensaernïaeth ac ymgynghoriaeth adeiladu a ddewiswyd, arbenigedd mewn gwaith dylunio addysg uwch sy’n golygu eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer yn ddiweddar yng nghategori Addysg Gwobrau Pensaer y Flwyddyn BD 2019.

Dywedodd Gary Overton, Cyfarwyddwr AHR: “Aethon ni ati i ddylunio IMPACT ar ffurf amgylchedd cydweithio grymus, mewn ffordd oedd bob amser yn blaenoriaethu dull amlddisgyblaeth o weithio. Mae’r amgylchedd yn sbarduno dyfeisgarwch trwy weithio gyda’r bobl y tu mewn, a gwreiddio cysylltedd ardaloedd ymchwil craidd fel bod y diwydiant a’r ochr academaidd yn teimlo bod eu mannau gwaith yn eu hannog i weithio ar y cyd. Rydym wrth ein bodd gyda’r canlyniad, ac yn arbennig o gyffrous i glywed am yr ysbrydoliaeth ddaw o’r gwaith a wneir yno.

Mae IMPACT yn dilyn llwyddiant adeilad cyfagos y Ffowndri Gyfrifiadurol, dyluniad arall gan AHR, a agorodd yn gynharach eleni. Mae’r ddau adeilad newydd pwysig ar Gampws y Bae Abertawe yn sefydlu cyrchfan fyd-eang ar gyfer ymchwil yn y Brifysgol.”

IMPACT building - completed outside‌Y tu allan i'r adeilad IMPACT, sydd â wal fyw enfawr o ryw 5,500 o blanhigion

Dysgwch am sut fydd y wal fyw yn gwella effeithlonrwydd ynni’r adeilad ac yn darparu cartref i fywyd gwyllt.

Dywedodd yr Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltiad yn y Coleg, a Chyfarwyddwr IMPACT, am y dyluniad: “Mae AHR wedi trosi ein trafodaethau yn rhywbeth sydd eisoes yn teimlo fel amgylchedd gwaith ardderchog a fydd yn ysbrydoli’r academyddion, yr ymchwilwyr, y myfyrwyr, yr ymwelwyr a’r cydweithwyr niferus o gwmnïau a’r byd academaidd.”

Yn ogystal â bod yn amgylchedd ymchwil trawsffurfiannol, mae’r adeilad hefyd yn cynnwys ‘wal fyw’ 114m2 o ryw 5,500 o blanhigion a blodau, ar flaenlun yr adeilad, gan greu argraff ddramatig wrth gyrraedd y campws. Mae’r wal yn dod â lefel newydd o gynaliadwyedd i’r adeilad, yn darparu cartref i fywyd gwyllt gyda blychau nythu integredig, ac yn ychwanegu at fioamrywiaeth y safle. Ar ben hynny, mae’r to’n gartref i 240 o baneli solar ffoto-foltaig sy’n ffynhonnell ynni.

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe. Bydd yr adeilad yn cael ei lansio’n swyddogol yn ystod misoedd y gaeaf.