Sam yn paratoi i ddefnyddio ei lwyddiant i ysbrydoli ei gyd-fyfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyriwr arobryn o Brifysgol Abertawe wedi addo defnyddio ei brofiad i helpu eraill i symud ymlaen i lwyddiant yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Enillodd darpar nyrs Sam Richards deitl y nyrsys eleni yng ngwobrau breintiedig y Rhaglen Myfyrwyr Arweiniol a gynhelir gan Gyngor Deoniaid Iechyd ac Ymddiriedolaeth Burdett dros Nyrsio, a chafodd glod gan y beirniaid am ddangos sgiliau arwain rhagorol. 

Sam Richards SoloBellach, mae Sam yn bwriadu parhau i ddefnyddio'r doniau hynny drwy ymrwymo i ymuno â phanel ymgynghorol Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr newydd Prifysgol Abertawe sy'n cael ei datblygu gan Beryl Mansel, uwch-ddarlithydd nyrsio gyda Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd. 

Meddai: “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi i ennill - roedd yn gymaint o syndod i fod ar restr fer y wobr. Mae'n fraint o'r mwyaf.” 

Mae Sam, sy'n fyfyriwr yn ei ail flwyddyn, yn credu mai un ffactor hollbwysig yn ei lwyddiant oedd ei gyfranogiad yn y fenter #150 o Arweinwyr a gynhelir gan Gyngor y Deoniaid i ddatblygu ac annog y myfyrwyr gofal iechyd hynny sydd â'r potensial i arwain. 

Mae'n aelod rhagweithiol o'i chymuned ar-lein, gan rannu syniadau a phrofiadau'n rheolaidd â myfyrwyr nid yn unig o fyd nyrsio ond o amrywiaeth eang o broffesiynau gofal iechyd. 

“Rwy'n  tueddu i gadw llygad am eraill sy'n ei chael hi'n anodd - er enghraifft, 'iselder enwog ail flwyddyn' - a gwneud popeth y galla i i gynnig cefnogaeth ac anogaeth," meddai. 

"Dyma rywbeth y byddaf yn ei ddefnyddio yn fy rôl ar y panel ymgynghorol, gan geisio annog eraill i gydnabod eu cryfderau, goresgyn eu teimladau o hunan-amheuaeth a chyflawni eu potensial. 

“Mewn gwirionedd, dyma'r hyn a wnaeth Beryl a'r darlithwyr gwych yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol a Iechyd i mi adeg hon y llynedd ac mae wedi bod yn bleser i'w 'dalu ymlaen'." 

Dywedodd Beryl Mansel mai nod yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr oedd sefydlu rhaglen a ddyluniwyd i annog a chefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu a defnyddio sgiliau arwain yn eu cyd-destun personol, proffesiynol a sefydliadol, gyda pherthnasedd uniongyrchol i gyflogwyr y dyfodol. 

Gwahoddir pob myfyriwr o bob rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ac Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe  i ymgeisio, gyda chronfa o 30 a ddewisir. 

Dywedodd: “Nid yw'r ffocws ar deitl arwain na'r rôl ond yn hytrach ar fyfyrwyr sy'n ennill mewnwelediad i'w hymagwedd arwain eu hunain a datblygu'r hyder i arwain drwy ysbrydoli, dylanwadu a chefnogi eraill."

Hefyd, mae Sam yn gobeithio rhannu ei angerdd ar gyfer gwaith tîm amlddisgyblaethol â nyrsys eraill ac achub ar unrhyw gyfle i ymgysylltu â myfyrwyr o broffesiynau gofal iechyd eraill, i ehangu eu safbwyntiau mewn paratoad i ymarfer. 

Ychwanegodd Sam: “Rwyf yn fwy na hapus i wneud popeth y galla i i annog myfyrwyr eraill, a bydd yr Academi'n cynnig cyfle gwych i ddatblygu dawn sy'n ymddangos o amrywiaeth o broffesiynau." 

Bydd darpar fydwraig Angharad Colinese, a gyrhaeddodd y rhestr fer am wobr gan Gyngor Deoniaid Iechyd hefyd, yn ymuno â Sam ar y panel ymgynghorol.‌

600 x 327