Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei lle yn y 10 uchaf o brifysgolion gwyrddaf y DU.
Mae Cynghrair Prifysgolion People and Planet, a gyhoeddir gan y Guardian, wedi datgelu bod ymrwymiad y Brifysgol i faterion amgylcheddol yn golygu bod y Brifysgol wedi cadw ei lle yn y 9fed safle, ac wedi’i choroni’n Brifysgol wyrddaf yng Nghymru.
Mae Cynghrair Prifysgolion Pobl a'r Blaned yn rhoi dosbarthiadau arddull gradd i Brifysgolion y DU yn seiliedig ar eu rheolaeth a'u perfformiad amgylcheddol a moesegol. Mae'r safle o bwys gan fod myfyrwyr am i'r brifysgol y maent yn ei dewis fod yn sefydliad 'cynaliadwy'.
Barnwyd bod Abertawe yn sefydliad o'r radd flaenaf ar ôl ennill marciau llawn yn y categorïau archwilio a rheoli amgylcheddol, categorïau rheoli carbon ac ynni.
Sgoriodd yn uchel hefyd am ei:
• Pholisi amgylcheddol
• Staff cynaliadwy
• Bwyd cynaliadwy
• Gwastraff ac ailgylchu
Dywedodd yr Is-ganghellor, Paul Boyle, ei fod wrth ei fodd bod Abertawe wedi gallu cynnal ei lle er gwaethaf cystadleuaeth gynyddol.
Meddai: “Mae ein safle fel y Brifysgol Wyrddaf yng Nghymru a 9fed yn y DG allan o 154 o sefydliadau addysgol yn rhywbeth y bydd ein staff, ein myfyrwyr a'n ffrindiau yn falch iawn ohono.
“Mae pobl ifanc - gan gynnwys ein myfyrwyr - yn gynyddol ymwybodol o'r angen i sefydliadau addysgol gymryd camau gwirioneddol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r amgylchedd, hinsawdd y Ddaear ac effaith fyd-eang ein gweithredoedd.
“Rydym i gyd yn falch bod Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod am gymryd yr awenau ar ran cenedlaethau'r dyfodol, ac rydym yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i nid yn unig i leihau ein heffaith negyddol ond hefyd i wneud y gorau o'n heffeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd a chymdeithas.”
Ychwanegodd Dr Heidi Smith, Pennaeth Cynaliadwyedd a Lles Staff y Brifysgol: “Mae cynnal ein safle yn y 10 uchaf yn dangos pa mor galed y mae ein staff a'n myfyrwyr yn gweithio tuag at nod cyffredin.
“Rydym yn falch iawn bod y dull arloesol a fabwysiadwyd gennym o ymgorffori cynaliadwyedd ar draws y Brifysgol yn talu ar ei ganfed.”
- Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2019 10.49 BST
- Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2019 09.50 BST
- Swyddfa'r Wasg, Ffôn: 01792604290