Prifysgol Abertawe i gynnal cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi fydd Prifysgol Abertawe yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli rhwng 23 Mai a 2 Mehefin eleni, fel rhan o’u partneriaeth gyda’r ŵyl celfyddydau byd-eang.

Bydd Dr Luca Trenta o'r Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol yn ymuno â Dr Rory Cormac, Athro Cysylltiol Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Nottingham, i archwilio hanes llofruddiaethau mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, ar ôl blwyddyn pan fu llofruddiaeth newyddiadurwr Sawdïaidd ac ysbïwr o Rwsia yn y newyddion.

I nodi pen blwydd y llenor Emyr Humphreys yn 100 eleni, bydd yr Athro M. Wynn Thomas, deiliad Cadair Emyr Humphreys yn CREW (Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Iaith Saesneg Cymru) Prifysgol Abertawe, yr Athro Daniel G. Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton, Prifysgol Abertawe ac un o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru, Menna Elfyn, yn trafod ei fywyd a’i waith. Cynhelir y drafodaeth, a drefnir gan Academi Hywel Teifi, yn Gymraeg, a darperir cyfieithu ar y pryd. 

Mi fydd enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a gyhoeddir ar 16 Mai, yn sgwrsio â Dai Smith, cadeirydd y panel beirniadu a Chadair Emeritws Raymond Williams ym Mhrifysgol Abertawe. Mae rhestr hir y wobr eleni yn cynnwys: Nana Kwame Adjei-Brenyah, Michael Donkor, Clare Fisher, Zoe Gilbert, Emma Glass, Guy Gunaratne, Louisa Hall, Sarah Perry, Sally Rooney, Richard Scott, Novuyo Rosa Tshuma and Jenny Xie.

Hay Festival sign

Yn cynnwys dros 600 o siaradwyr mewn digwyddiadau dros 11 diwrnod, mae'r ŵyl hefyd yn cynnig amserlen fywiog o gerddoriaeth gyda’r nos, nosweithiau comedi ac adloniant i bob oed ochr yn ochr â rhaglenni HAYDAYS a #HAYYA sy'n annog darllenwyr ifanc i fod yn greadigol.

Manylion y digwyddiadau:

Enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn sgwrsio â Dai Smith

Dydd Sadwrn 25 Mai 2019, 5.30pm Lleoliad: Llwyfan Starlight

Emyr Humphreys yn 100 - Llenor Dihafal

Dydd Llun 27 Mai 2019, 2.30pm Lleoliad: Llwyfan Starlight

License to Kill? Assassination in International Politics – Luca Trenta a Rory Cormac

Dydd Iau 30 Mai 2019, 2.30pm Lleoliad: Llwyfan Cymru

Meddai’r Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: “Gŵyl y Gelli yn un o uchafbwyntiau diwylliannol rhyngwladol y flwyddyn. Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn Bartner Addysgol gyda’r Wyl ac rydym yn falch o ddod â rhai o'r goreuon o Abertawe i'r Gelli bob gwanwyn.”

Meddai Peter Florence, cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli: "Mae Gŵyl y Gelli yn lle i feddwl, i feddwl eto, ac i roi materion mawr y dydd yng nghyd-destun hanes byd-eang. Mae ymerodraethau'n dod i ben, mae technoleg yn ein grymuso a'n caethiwo, caiff fydd ei hysgwyd, terfir ar uniongrededd, ac rydym yn dal i ddod ynghyd i siarad a chanu a dawnsio, i dorri bara a hel straeon. Mae meddyliau'n newid. Mae llywodraethu'n hynod galed, mae democratiaeth yn agored i niwed, ac mae cyd-fyw - y Convivencia - yn freuddwyd werthfawr. Y newyddion da yw bod ein potensial yn ddiderfyn, a chyfeillgarwch yw ein pleser. Beth am siarad? Beth am wrando?"

Gall Cyfeillion Gŵyl y Gelli archebu tocynnau ar-lein nawr neu drwy ffonio 01497 822 629. Mae tocynnau cyffredinol ar werth o ddydd Gwener 29 Mawrth.