Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2019 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Am y tro cyntaf eleni, cafodd y llysgenhadon eu dewis drwy gyfweliad yn ogystal â ffurflen gais.

Mae’r 25 llysgennad wedi’u lleoli mewn saith prifysgol ledled Cymru gan gynnwys pedwar ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd Shannon Rowlands, Nicole Davies, Katie Phillips a Lydia Hobbs yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn.

Llynsgenhadon 2019

Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddisgyblion ysgol i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o hynny.

Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau megis ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau ar flog ac ar amryw sianel cyfryngau cymdeithasol y Coleg.

Llais y Llysgennad yw’r blog sy’n rhoi darlun o fywyd fel myfyriwr Cymraeg ar ffurf fideo, lluniau a sgwrs. Gellir dilyn blog llysgenhadon y Coleg Cymraeg yma â gweld lluniau’r unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg.

Meddai Shannon Rowlands: “Fe wnes i ymgeisio i fod yn llysgennad er mwyn gallu dangos y cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr i astudio yn y Gymraeg a dangos beth mae hyn yn ei olygu ym myd cyrsiau iechyd. I fi, mae astudio modiwl Cymraeg yn golygu mwy o siawns i gael lleoliad mewn ardaloedd a chanran uwch o siaradwyr Cymraeg, yr hawl i gyflwyno rhai darnau o waith yn y Gymraeg a'r gallu i gael tiwtor personol Cymraeg. Mae'r holl bethau hyn yn gwneud i fi deimlo’n fwy cartrefol a chyfforddus yn y brifysgol. Dwi’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd!”