Myfyrwyr yn elwa ar eu cynlluniau busnes disglair

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwyr entrepreneuraidd o Brifysgol Abertawe'n dathlu ar ôl iddynt ennill arian i'w helpu i ddatblygu eu syniadau busnes unigryw.

Profwyd eu cysyniadau yn ystod digwyddiad pum niwrnod arbennig a drefnwyd gan Dîm Entrepreneuriaeth y Brifysgol â'r nod o ddysgu'r hanfodion i fyfyrwyr o ran y sgiliau y mae eu hangen i ddechrau ac ehangu eu busnesau. 

600 x 292

Y myfyriwr Jack Davies yn cyflwyno i'r beirniaid yn ystod y digwyddiad.

Roedd y Rhaglen Sbarduno 'Profwch eich Syniadau' yn cynnwys sgiliau busnes hanfodol, o'r broses gynllunio busnes i'w lansio. 

Fel rhan o'r rhaglen, cafodd 13 o fyfyrwyr gyfle i ymgeisio am gyllid buddsoddi i'w helpu i gychwyn arni, gwneud cysylltiadau busnes newydd a chael eu mentora wrth iddynt gychwyn ar eu mentrau. Yn ystod yr wythnos, buont yn astudio marchnata, cyllid, sut i weithio'n effeithiol mewn tîm a beth yw'r ffordd orau o gyflwyno eu syniadau. 

Rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr ddangos faint yr oeddent wedi'i ddysgu ar y diwrnod olaf pan gyflwynwyd 11 o syniadau i banel o feirniaid, a ddyfarnodd ychydig dros £5,000 o fuddsoddiad Prifysgolion Santander i naw prosiect llwyddiannus. 

Judging panelY Panel Beirniadu (o'r chwith) entrepreneur Vianney Wilson o Reignite, Danielle Fletcher, o Brifysgolion Santander a Chris James, perchennog Ciotek. 

Rhoddwyd £250 i Charlotte Crawford, sydd newydd raddio â BSc mewn Busnes o'r Ysgol Reolaeth, i'w helpu i brynu enwau parth hanfodol ar gyfer ei busnes bandiau gwrthiant newydd.

Dywedodd fod y gystadleuaeth wedi rhoi cyfle iddi wella'r sgiliau busnes roedd wedi'u hennill yn ystod ei chwrs pedair blynedd drwy gael rhywfaint o brofiad ymarferol ychwanegol. 

"Mae cymryd rhan yn y rhaglen wedi newid fy meddylfryd yn gyfan gwbl ac mae wedi fy ysbrydoli i roi cynnig arni a dechrau fy musnes fy hun," meddai. 

Ymhlith y myfyrwyr llwyddiannus eraill roedd Jack Davies, o'r Coleg Peirianneg, a sicrhaodd y dyfarniad ariannol unigol mwyaf, sef £1,250, tuag at ei syniad, Motor Mate.

Derbyniodd ei gyd-gystadleuydd, y fyfyrwraig PhD, Rakiya Mamman £800 i'w helpu i ddatblygu ei busnes technoleg newydd. 

Hefyd, roedd y cynigion amrywiol a enillodd gymorth ariannol yn cynnwys ap i hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol, cynnyrch gwallt a harddwch i bobl ddu ac o leiafrifoedd ethnig a diodydd llyfnffrwyth iach i'w hyfed ar ôl gwneud ymarfer corff. 

Dywedodd y Pennaeth Ymgysylltu, Arloesi ac Entrepreneuriaeth, Emma Dunbar, fod y rhaglen yn un o'r ffyrdd y mae'r brifysgol yn annog ac yn cefnogi myfyrwyr sydd â meddylfryd busnes ar eu taith fusnes. 

"Rydym yn falch iawn o'n myfyrwyr a'n Strategaeth Entrepreneuriaeth, sy'n amlinellu ymrwymiad ein Prifysgol i ddarparu cyfleoedd i'n myfyrwyr brofi a dilysu eu syniadau busnes mewn amgylchedd diogel, cael profiadau gwerthfawr o’r byd go iawn a datblygu eu sgiliau i wynebu'r heriau sydd o'u blaenau. 

"Rydym yn falch o allu eu helpu i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd a'r sgiliau a fydd yn eu paratoi ar gyfer byd sy'n llawn ansicrwydd a chyfleoedd, ynghyd â marchnad lafur sy'n gynyddol gystadleuol."

Dywedodd y Swyddog Entrepreneuriaeth, Kelly Jordan: "Dyma'r tro cyntaf i ni gynnal y digwyddiad pum niwrnod hwn ac roedd yn llwyddiannus iawn.

"Rydym wedi derbyn adborth gwych gan y myfyrwyr a gymerodd ran, a ddywedodd eu bod yn gwerthfawrogi'r cyngor a'r sgiliau newydd maent wedi'u hennill yn fawr. 

"Gwnaeth yr amrywiaeth eang o syniadau a gyflwynwyd eleni argraff dda iawn arnom ac edrychwn ymlaen at ddilyn eu cynnydd tuag at y farchnad."

Am ragor o fanylion am y gefnogaeth sydd ar gael, ewch i myuni.swansea.ac.uk/cy/cyflogadwyedd-menter/menter-myfyrwyr