Myfyrwyr Abertawe’n dod â chwilotwr gwyrdd i’r campws

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Chwilio’r we ym Mhrifysgol Abertawe’n i Blannu Coed.

Mae Tîm Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe'n gweithio gyda myfyrwyr a chydweithwyr i ddod ag Ecosia - y chwilotwr sy'n plannu coed - i'r campws.

O 4 Chwefror, y chwilotwr gwyrdd, Ecosia, fydd y chwilotwr awtomatig ar Internet Explorer ar bob cyfrifiadur mynediad agored sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd mae dros 1200 o ddyfeisiau yn amgylcheddau dysgu a mannau astudio'r Brifysgol.

Mae Ecosia'n gweithio yn yr un modd â chwilotwyr eraill, ond mae’n defnyddio'r elw a wneir i blannu coed.

Defnyddir o leiaf 80% o'r incwm dros ben o refeniw hysbysebu Ecosia i gefnogi prosiectau ailgoedwigo ledled y byd, gan gynnwys prosiectau plannu coed sydd ar y gweill yn Burkina Faso, Madagascar, Indonesia a Pheriw.

Dau fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, Jean-Louis Button ac Alice Evans, ddechreuodd yr ymgyrch i ddod ag Ecosia i Brifysgol Abertawe.

300 x 159

Meddai Alice, sy'n astudio Daearyddiaeth yn y Coleg Gwyddoniaeth:

“Mae mor gyffrous gweld Ecosia'n dod i Brifysgol Abertawe. Mae defnyddio Ecosia yn newid syml sy'n gwneud gwahaniaeth mawr;  caiff cymunedau gwledig eu trawsnewid drwy wella ansawdd y pridd, atal diffeithdiro, diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt sydd dan fygythiad, cefnogi bioamrywiaeth ac yn bwysicaf oll, mae plannu coed yn un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Mae chwilotwr Ecosia cystal â Google neu Bing ond, drwy ddefnyddio Ecosia, gallwch helpu i drawsnewid tirweddau cyfan er budd cymunedau a bywyd gwyllt ym mhedwar ban byd ar yr un pryd.”

Meddai Teifion Maddocks, Swyddog Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae mentrau cynaliadwy megis y rhain yn dangos sut gall newidiadau syml yn ein harferion pob dydd, fel unigolion a chyda'n gilydd, gael effaith gadarnhaol iawn ar yr amgylchedd.

“Mae coed yn rhai o hidlwyr carbon mwyaf effeithlon y blaned, felly dyma ffordd wych o'n helpu i leihau ein hôl troed carbon heb wneud fawr o ymdrech.”

Ychwanegodd Glen Donnachie, Rheolwr y Cyfryngau a TG ym Mhrifysgol Abertawe:

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr i ddod â'r fenter werdd hon i’r campws. Rydym bellach yn awyddus i weithio'n agosach gydag Ecosia i archwilio ffyrdd o olrhain a mesur cydymdrechion y Brifysgol.

"Rydym wedi sicrhau ei bod yn hawdd i fyfyrwyr newid i syrffio'r we mewn modd cynaliadwy gydag Ecosia, ond rydym yn awyddus i gyflwyno hyn i staff hefyd.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ecosia a newid eich chwilotwr yma.

600 x 400