FameLab 2019 yn dod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Fforwm Ymgysylltu â’r Cyhoedd Prifysgol Abertawe'n cynnal rhagbrawf FameLab 2019 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau mewn partneriaeth â Chaffi Oriel Science.

Cynhelir y rhagbrawf am 7:30pm ar ddydd Mercher, 30 Ionawr, ac mae'r digwyddiad am ddim i'r cyhoedd.

FameLab yw'r gystadleuaeth fwyaf yn y Deyrnas Gyfunol i ddarganfod doniau newydd mewn cyfathrebu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Mae croeso i unrhyw un sy'n gweithio mewn maes STEM ac sy'n meddwl y gallai esbonio syniad neu gysyniad i bobl nad ydynt yn wyddonwyr mewn tair munud. Rhaid i gystadleuwyr fod yn 21 oed neu'n hŷn ac yn astudio neu'n gweithio mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg, sy'n cynnwys athrawon gwyddoniaeth neu fathemateg arbenigol.

Dylai'r cystadleuwyr gofrestru'n uniongyrchol â FameLab a pharatoi cyflwyniad tair munud.

250 x 352

Caiff cystadleuwyr droi i fyny ar ddiwrnod y rhagbrawf i gymryd rhan, ond bydd sesiwn hyfforddiant dewisol, ond tra chymeradwy, ymlaen llaw.

Bydd enillwyr rhagbrawf Abertawe – a ddewisir ar 30 Ionawr – yn mynd ymlaen i rownd derfynol ranbarthol Cymru, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 27 Chwefror. Bydd yr enillydd yn cymryd rhan mewn dosbarth meistr gyda rhai o gyfathrebwyr gwyddoniaeth gorau'r Deyrnas Gyfunol yn y rownd derfynol yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham ar 3 Mehefin.

Bydd yr enillydd cenedlaethol yna'n cystadlu yn erbyn 25 o enillwyr rhyngwladol eraill i fod yn Bencampwr Rhyngwladol FameLab.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cheltenhamfestivals.com/science/famelab.

Enillodd Laura O’Dea, myfyriwr PhD yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, rownd derfynol ranbarthol FameLab Cymru yn 2018:

"FameLab oedd un o fy hoff brofiadau yn y brifysgol. Mae'r gystadleuaeth yn darparu lle ar gyfer brwdfrydedd difalio am bob agwedd ar wyddoniaeth. 

"Ar hyd y ffordd cwrddais â llawer o bobl, cyd-gystadleuwyr a gweithwyr cyfathrebu gwyddoniaeth proffesiynol fel ei gilydd, a ysbrydolodd fi a heriodd fy nghanfyddiadau ynghylch cyfathrebu gwyddoniaeth.

"Gwnaeth paratoi ar gyfer y gystadleuaeth fy annog i gofio'r holl bethau rwy'n dwlu arnynt mewn STEM, a chaniataodd i mi adrodd rhai o'm hoff straeon a ddysgais ar hyd  y blynyddoedd mewn ffordd ddifyr a chwareus. P'un ai eich bod yn sefyll ar y llwyfan neu'n eistedd yn y gynulleidfa, mae FameLab yn sicr yn rhywbeth y buaswn yn annog pawb i ymwneud ag e."