Cyflawni Bargeinion Dinesig yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ai bargeinion dinesig yw'r ffordd ymlaen i'r rhanbarthau hynny sydd wedi dioddef diffyg buddsoddi gan y sector preifat? Dyna'r cwestiwn a ofynnir mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe i academyddion, gwleidyddion, a'r bobl y bydd y pedair partneriaeth ranbarthol sy'n cael eu datblygu ar draws Cymru yn effeithio arnynt fwyaf.

Bydd yr ail symposiwm ar Fargeinion Dinesig, a gynhelir ar Gampws y Bae y Brifysgol ar 18 Medi, yn ystyried cyflawni'r pedair Bargen Ddinesig a Phartneriaeth Ddatblygu yng Nghymru - yn rhanbarthau Dinas Caerdydd, Bae Abertawe, Canolbarth Cymru a Gogledd Cymru. 

600 x 341

Bydd sesiynau'n edrych ar uchelgeisiau Bargeinion Dinesig a bargeinion twf, a byddant yn cynnwys papurau a thrafodaeth am lywodraethu ac uchelgeisiau ar gyfer twf yng nghyd-destun strategaeth ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru. 

Bwriedir y digwyddiad ar gyfer penderfynwyr, y rhai sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol, busnesau ac ymchwilwyr academaidd, ac fe'i trefnir gan Academi Morgan Prifysgol Abertawe (a enwyd ar ôl cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan) a WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru). 

Bydd y gynhadledd yn clywed gan academyddion blaenllaw, gan gynnwys yr Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd, yn siarad am lywodraethu bargeinion dinesig; a'r Athro Martin Jones, o Brifysgol Swydd Stafford, yn siarad am gyfyngiadau prosiectau dinas-ranbarthau. Bydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r pedair Bargen Ddinesig a Phartneriaeth Ranbarthol yng Nghymru.

 Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Bydd bargeinion dinesig yn cael effaith drawsffurfiol ar economïau rhanbarthol yng Nghymru, gan helpu i greu miloedd o swyddi â chyflog da wrth hefyd gau'r blwch rhyngom ni â rhannau mwy cyfoethog o'r Deyrnas Gyfunol. 

"Yn ogystal, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd Bargeinion Dinesig o ran helpu i gynyddu proffil Cymru fel lle i fuddsoddi ynddi, i ymweld â hi ac i fyw ynddi. Mae ganddynt rôl allweddol o ran creu Cymru fwy ffyniannus i breswylwyr a busnesau, nawr, ac i'r cenedlaethau i ddod. 

"Yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn misoedd diweddar. Mae hyn yn cynnwys cymeradwyo dau brosiect cyntaf Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a disgwylir cymeradwyaeth debyg yn y misoedd i ddod. 

"Bydd rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwella bywydau pobl drwy fuddsoddiadau mawr mewn sectorau megis arloesi digidol, gofal iechyd ac ynni dim carbon, wrth hefyd ddiogelu ein diwydiant dur at y dyfodol. Mae hwn yn amser cyffrous i dde-orllewin Cymru.” 

Meddai'r Athro David Blackaby o Brifysgol Abertawe: "Mae hwn yn gyfle amserol i asesu llwyddiant, neu ddiffygion, partneriaethau rhanbarthol a bargeinion dinesig yng Nghymru. Byddwn yn tynnu ar brofiadau bargeinion dinesig eraill yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae'r gynhadledd hon yn addo bod yn gyfle gwych i gronni ein gwybodaeth a'n harbenigedd."

https://www.eventbrite.com/e/cyflawni-bargeinion-dinesig-yng-nghymru-delivering-city-deals-in-wales-tickets-68266323411