Canlyniadau da ar gyfer prosiect ymchwil canser

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae buddsoddiad o £2.6 miliwn mewn prosiect i wella diagnosis a thriniaeth canser yr ofari yn mynd o nerth i nerth.

Lleolir y Clwstwr ar gyfer Therapiwteg Cyfieuau Epigenomig a Chyffuriau Gwrthgorff (CEAT) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a derbyniodd £1.2m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni. 

Mae epigeneteg yn golygu astudio newidiadau cemegol mewn DNA a phroteinau cysylltiedig sy'n gallu peri i enynnau gael eu troi ymlaen a'u diffodd.  Mewn rhai achosion, gall hyn fynd o chwith, gan arwain at glefydau megis canser a chyflyrau niwroddirwyiol megis clefyd Parkinson. 

Ym mhrosiect CEAT, mae'r Brifysgol yn gweithio'n agos gyda phartneriaid diwydiannol i ddatblygu cyffuriau sy'n gallu rheoli signalau epigenetig; yna gellir targedu'r rhain yn benodol i gelloedd canser yr ofari lle cafwyd newidiadau epigenetig. 

ILS2 buildingO ganlyniad i lwyddiant y prosiect hyd yn hyn, mae un o brif gydweithredwyr y Brifysgol, Porvair Sciences, wedi gallu ehangu ei weithrediad, o'r cam deori yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd, i sefydlu safle yng ngogledd Cymru. 

Drwy raglen ariannu A4B Llywodraeth Cymru (sydd bellach yn gysylltiedig â SMART), mae'r prosiect cydweithredol epigen wedi galluogi ymchwil a datblygu helaeth mewn technolegau trawsnewidiol sydd wedi arwain at offeryn ymchwil epigeneteg newydd o’r enw Chromatrap. 

Er bod gan Porvair staff yn y Brifysgol o hyd, mae cynhyrchion Chromatrap bellach yn cael eu gweithgynhyrchu yn ei gyfleusterau biowyddorau newydd yn Wrecsam a'u cynnig i'r farchnad gwyddorau bywyd. 

Meddai Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth, yr Athro Keith Lloyd:  "Mae ein cydweithrediad â Porvair yn parhau i esgor ar ddatblygiadau cyffrous. 

"Mae'r bartneriaeth hon a phrosiect CLEAT yn gyffredinol yn helpu i roi ein rhanbarth ar y map fel canolbwynt ymchwil, datblygu a gweithgarwch masnachol yn y gwyddorau bywyd. 

"O ganlyniad, rydym yn cymryd camau pwysig bob dydd tuag at wella ein gwybodaeth am y ffordd orau o drin cleifion."