Astudiaeth yn datgelu sut mae awr neu ddwy yn unig o ddysgu awyr agored bob wythnos yn gwella lles plant ac yn cynyddu boddhad swydd athrawon

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu sut mae cyn lleied ag awr yr wythnos o ddysgu yn yr awyr agored yn dod â manteision aruthrol i blant ac yn cynyddu lefelau boddhad athrawon yn eu swyddi.

Trwy gyfweliadau a grwpiau ffocws, archwiliodd ymchwilwyr farn a phrofiadau disgyblion ac addysgwyr mewn tair ysgol gynradd yn ne Cymru a oedd wedi mabwysiadu rhaglen ddysgu awyr agored a oedd yn golygu addysgu'r cwricwlwm yn yr amgylchedd naturiol am o leiaf awr yr wythnos.

Cynhaliwyd cyfweliadau gyda phenaethiaid ac athrawon, a chynhaliwyd grwpiau ffocws gyda disgyblion 9-11 oed cyn ac yn ystod gweithredu’r rhaglen ddysgu awyr agored o fewn y cwricwlwm.

Nododd yr ysgolion yn yr astudiaeth amrywiaeth o fanteision dysgu yn yr awyr agored ar gyfer y plant a’r athrawon, ac ar gyfer gwella iechyd, lles, addysg ac ymgysylltiad yn yr ysgol.

Children engaged in outdoor learning

Eglurodd awdur arweiniol yr astudiaeth, Emily Marchant, ymchwilydd PhD mewn Astudiaethau Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe: “Canfuom fod y disgyblion yn teimlo ymdeimlad o ryddid y tu allan i waliau cyfyng yr ystafell ddosbarth. Roeddent yn teimlo'n fwy abl i fynegi eu hunain, ac roeddent yn mwynhau gallu symud o gwmpas yn fwy hefyd. Roeddent hefyd yn teimlo'n fwy ymgysylltiedig ac yn fwy cadarnhaol am y profiad dysgu. Clywsom lawer hefyd yn dweud bod eu lles a'u cof yn well, a dywedodd athrawon wrthym sut yr oedd yn helpu i ymgysylltu â phob math o ddysgwyr. ”

Mae manteision addysg awyr agored i blant wedi cael sylw manwl, ond canfyddiad o'r astudiaeth hon yw'r effaith a gafodd y rhaglen ddysgu awyr agored ar athrawon.

Emily Marchant Dywedodd Emily (yn y llun): “I ddechrau, roedd gan rai athrawon amheuon ynglŷn â throsglwyddo'r ystafell ddosbarth i’r awyr agored, ond unwaith yr oedd dysgu yn yr awyr agored yn rhan annatod o'r cwricwlwm, roeddent yn siarad am well boddhad swydd a lles personol. Mae hwn yn ganfyddiad pwysig iawn o gofio'r pryderon presennol ynghylch cyfraddau cadw athrawon. Ar y cyfan, mae ein canfyddiadau yn amlygu potensial dysgu yn yr awyr agored fel arf cwricwlwm i wella ymgysylltiad ysgolion a chanlyniadau iechyd, lles ac addysg plant.

“Mae'r ysgolion yn ein hastudiaeth i gyd wedi parhau gyda dysgu awyr agored rheolaidd. Gyda chefnogaeth a chydnabyddiaeth gan arolygiaethau addysg o'r manteision ehangach i ddatblygiad ac addysg plant, gellid gosod dysgu yn yr awyr agored o fewn cwricwlwm yr ysgol gynradd. ”

Cyhoeddir yr astudiaeth, ‘Curriculum-based outdoor learning for children aged 9-11: A qualitative analysis of pupils’ and teachers’ views’, yn PLOS ONE.