Addysg wrth wraidd hwb pwysig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gan Brifysgol Abertawe rôl allweddol mewn menter newydd sy’n ceisio defnyddio gallu addysg i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn y ddinas.

Mae'n rhan o bartneriaeth i lansio Coleg Adfer yn Abertawe sy'n cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu newydd i bobl â salwch meddwl a'u teuluoedd. 

Lleolir y Coleg yn y Ganolfan Gymunedol ar gyfer Adfer, Addysg a Hyfforddiant Sgiliau (CREST) yng Nghwmbwrla a'i nod yw codi hunan-barch a hyder cyfranogwyr ynghyd â'u sgiliau.   

600 x 374

Mark Jones, o'r Adran Addysg Barhaus Oedolion, Rheolwr CREST Steve Williams, Yr Arglwydd Faer David Philips, y Dirprwy Is-ganghellor Martin Stringer, James Thomas, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Vanessa Knighton, Iechyd Galwedigaethol a Nick Andrews o Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, yn y lansiad. 

Esboniodd Mark Jones, Arweinydd Academaidd Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) y Brifysgol, fod pobl sy'n profi iechyd meddwl yn aml yn cael eu heithrio rhag cyfleoedd prif ffrwd megis cyflogaeth, addysg a hyfforddiant.  Yn ei dro, gall hyn arwain at unigrwydd a lles ac iechyd meddwl gwaeth.   

Meddai: "Mae canolfannau dydd a chyfleoedd dydd wedi helpu i leihau rhai o'r anawsterau hyn ond nid ydynt yn ddigon i'w cefnogi'n llawn ar eu pennau eu hunain." 

Mae Colegau Adfer, sy'n cael eu datblygu'n fwyfwy ar draws y DU, yn sefydliadau dysgu sy'n cynnig y posibilrwydd o newid a thrawsnewid i bobl sydd eisiau ailadeiladu eu bywydau.  

Nod y Coleg newydd yw cefnogi unigolion i fyw'r bywyd y maent ei eisiau a chaniatáu iddynt ddod yn arbenigwyr yn eu hunan-ofal eu hunain. 

Meddai Rheolwr CREST, Steve Williams, a agorodd y digwyddiad lansio: "Bydd y coleg adfer hwn yn cynnig cyfle i drawsnewid bywydau pobl mewn ffordd gadarnhaol a grymusol gan weithio ar y cyd ag addysgwyr." 

Mae'r Brifysgol wedi cydweithio ar y prosiect gyda Choleg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant i gynnig cyfleoedd ymgysylltu a dysgu mewn addysg bellach a ddyluniwyd i gynorthwyo gydag amcanion personol a hefyd i weithredu fel cam posibl tuag at addysg bellach, addysg uwch neu gyflogaeth.  

Bydd AABO yn anelu at ddatblygu grŵp darllen, cynnig darlithoedd blas a phrofiadau o addysg uwch, yn ogystal â phrofiad o fodiwl byr sy'n diwallu anghenion myfyrwyr o fewn y coleg adfer. 

Ychwanegodd Mark Jones: "Rydym am ddefnyddio ymagwedd addysgol at wella iechyd a chefnogi cymorth a gynigir eisoes gan Gyngor Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe." 

I ddathlu datblygiad y coleg, aeth rhanddeiliaid i ddigwyddiad lansio arbennig yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin yng nghampws Singleton y Brifysgol. 

600 x 162

Gwesteion yn nigwyddiad lansio'r Coleg Adfer a gynhaliwyd yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin. 

Wrth gefnogi'r prosiect, meddai Arglwydd Faer Abertawe David Phillips: "Bydd hyn yn creu amgylchedd lle mae pobl sydd wedi cael problemau iechyd meddwl yn gallu teimlo'n ddiogel, yn gartrefol a'u bod wedi cael eu derbyn ac yn gallu cyrraedd eu potensial llawn - mae'n brosiect ardderchog a hanfodol i Abertawe." 

Nododd Nick Andrews, o Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru a leolir yn y Brifysgol, fod datblygu'r Coleg yng ngwir ysbryd addysg yn ôl diffiniad yr addysgwr o Frasil, Paulo Freire - "a phrif nod hynny yw creu byd lle mae'n haws caru".    

Ychwanegodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe Martin Stringer fod y Brifysgol yn falch o fod yn rhan o brosiect mor gyffrous ac arloesol: "Dyma ddatblygiad pwysig i gefnogi'r bobl hynny sy'n profi problemau iechyd meddwl a chwalu'r rhwystrau i addysg." 

Bydd Coleg Adfer Abertawe'n agor ei ddrysau ar gyfer diwrnod agored yn yr haf. I ganfod mwy am y prosiect cyffrous hwn