Addysg fferylliaeth i ffynnu ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Brifysgol yn cymryd camau i adeiladu ar rôl y fferyllydd sy'n dod yn fwyfwy pwysig mewn gofal iechyd drwy ddatblygu ei gradd fferylliaeth newydd.

Gyda'r newyddion diweddar bod Llywodraeth Cymru bron yn dyblu lleoedd hyfforddiant ym maes fferylliaeth yng Nghymru gyda hwb gwerth £5 miliwn - mae'r rhaglen MPharm newydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi'i hamseru'n berffaith.

Mae ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad 'dewis cyntaf' i fferyllwyr Hyfforddi, Gweithio a Byw - ac mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe eisoes wedi dechrau buddsoddi yn ei hymrwymiad i ddarparu addysg a hyfforddiant fferylliaeth o’r radd flaenaf trwy ddatblygu ei chwricwlwm MPharm newydd, recriwtio academyddion fferylliaeth o'r radd flaenaf a sefydlu tîm ymchwil fferylliaeth cryf.

Rhaglen MPharm newydd - mwy o wybodaeth

600 x 570

Llun: o'r chwith; Dr Adam Turner, Yr Athro Andrew Morris, Dr Amira Guirguis  

Mae'r Athro Andrew Morris, y Pennaeth Fferylliaeth newydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi croesawu'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a dywed ei fod yn amser cyffrous i hyfforddi a gweithio fel fferyllydd yng Nghymru. 

Meddai'r Athro Morris:

"Gall myfyrwyr fferylliaeth sy'n dewis dod i Gymru elwa o system gofal iechyd integredig iawn - diolch i'r ffordd y mae'r GIG wedi'i drefnu yng Nghymru, mae'n llawer haws rhannu gwybodaeth ac arloesedd ar draws ystod eang o leoliadau - mae hyn yn ei dro yn ein galluogi i roi'r gofal gorau posib i gleifion."

Mae'r Athro Morris yn ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe - sydd bellach yn y 3 safle yn y DU ar gyfer Meddygaeth yn ôl y Times Good University Guide - o Brifysgol Nottingham, Campws Maleisia, lle bu'n Ddeon y Gyfadran Wyddoniaeth. 

Cyfnod Cyffrous i Fferylliaeth

Meddai'r Athro Morris:

"Rydym yn hynod gyffrous ein bod yn lansio ein gradd MPharm newydd yma yn Abertawe yn 2021 ac rydym eisoes wedi recriwtio academyddion blaenllaw a fydd yn ein helpu i lunio a darparu'r cwrs. Ein Cyfarwyddwr ar y Rhaglen MPharm, fydd Dr Amira Guirguis sy'n fferyllydd ac yn uwch-ddarlithydd o Brifysgol Hertfordshire, a bydd Dr Adam Turner yn ymuno â ni fel Uwch-ddarlithydd mewn Ymarfer Fferylliaeth o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru.

"Mae Adam yn dod â phrofiad ardderchog o rolau proffesiynol blaenorol gyda'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru a'i amryw benodiadau academaidd yn Lloegr ac yn rhyngwladol. Bydd profiad ymarfer diweddar Adam mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys practis meddyg teulu a gofal brys, yn golygu bod ganddo fewnwelediad gwych i'r materion bywyd go iawn sy'n effeithio ar anghenion gofal iechyd cleifion a'r cyhoedd.  Bydd ei gyfoeth o brofiad fferyllol yn allweddol wrth i ni ddatblygu cwricwlwm MPharm newydd i baratoi fferyllwyr y dyfodol ar gyfer eu rolau sy'n dod yn fwyfwy helaeth o fewn y GIG." 

600 x 393

Ymchwil flaenllaw ar gamddefnyddio cyffuriau

Ar ben elwa ar ochr alwedigaethol fferylliaeth, bydd myfyrwyr yn Abertawe hefyd yn elwa ar y cyfoeth o arbenigedd ymchwil sydd gan Dr Amira Guirguis lle mae'n ffocysu ar ganfod sylweddau seicoweithredol newydd yn y maes. Enghraifft nodedig o'i gwaith oedd cydweithrediad gydag Addaction, lle arweiniodd Amira y gwaith o sefydlu Gwasanaeth Gwirio Cyffuriau cyntaf y DU a gymeradwywyd gan y llywodraeth o fewn lleoliad camddefnyddio sylweddau.    Mae ei diddordebau ymchwil hefyd yn cynnwys Addysg Fferyllol ac Iechyd Cyhoeddus. 

Ychwanegodd yr Athro Morris:

"Mae ymchwil Amira yn canolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau ac yn benodol sylweddau seicoweithredol newydd. Hefyd hi oedd yr arweinydd ar brofi cyffuriau mewn clinig peilot sy'n gwneud profion maes ar gyffuriau - a'r cyntaf i dderbyn trwydded gan y Swyddfa Gartref.   Bydd ein myfyrwyr fferylliaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe'n elwa o'r ymchwil newydd hon drwy ddeall rolau fferyllwyr wrth adnabod a dosbarthu sylwedd seicoweithredol anhysbys yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â defnydd risg uchel.

"A bydd ein myfyrwyr yn rhan o labordai ymarferol a phrosiectau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r maes newydd hwn o ymchwil diolch i'r cyfoeth o sgiliau arbenigol y mae Amira yn eu cynnig i'r Ysgol.

"Dyma gyfnod cyffrous iawn i addysg a hyfforddiant Fferylliaeth yng Nghymru."

Ychwanegodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

"Gan fod angen mwy a mwy o fferyllwyr er mwyn cwrdd â'r galw cynyddol gan gleifion, bydd ein gradd MPharm newydd yn helpu i ddarparu gofal fferyllol o’r radd flaenaf i bobl yng Nghymru.

"Croesawn yr ymrwymiad cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff ein gradd fferylliaeth newydd ei datblygu i fodloni anghenion newidiol fferylliaeth." 

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe