Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn cydweithio ag elusen i annog arloesedd ym maes cardioleg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cydweithio â Sefydliad Graig - elusen newydd ei sefydlu - i annog arloesedd a datblygiadau ym maes cardioleg.

Mae Sefydliad Graig wedi partneru ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe i dynnu ar ei dawn academaidd, y sgiliau a'r wybodaeth sydd ganddi am Gomisiwn Bevan, ac arbenigedd llawfeddyg byd-enwog y galon, yr Athro Stephen Westaby.

Gyda methiant y galon yn broblem fawr yn fyd-eang, mae angen triniaethau ac ymyriadau newydd i fynd i'r afael â'r materion cymdeithasol, economaidd ac o ran iechyd cynyddol y mae'r byd datblygol yn eu hwynebu. Mae triniaethau arloesol megis therapi bôn-gelloedd a phympiau'r galon yn cael eu datblygu yn ecosystem Prifysgol Abertawe sy'n edrych allan tuag at ddiwydiant, ac sy'n gweithredu fel sail i brofion ar gyfer meddwl yn arloesol.

Cwmpas rhagarweiniol y prosiect fydd prawf bôn-gelloedd parhaus yn Ysbyty Brenhinol Brompton, a bydd cyfle i edrych ar y rhwystrau a'r galluogwyr ar gyfer cynnwys technegau'r un fath a rhai cysylltiedig yn sector gofal iechyd y rhanbarth.

Trwy ddatblygiad ym maes ymchwil a meddygaeth, bydd Sefydliad Graig yn ceisio defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i wneud gwelliannau a dod o hyd i driniaethau posibl ym maes cardioleg, gan ganolbwyntio'n gyntaf ar fethiant y galon a chyflyrau sy'n ymwneud â rhythm y galon.

Yn y tymor hirach, bydd y Sefydliad, drwy gyfres o bartneriaethau cryf, yn ymdrechu i gefnogi nifer o brosiectau ym maes meddygol, gofal iechyd, y gwyddorau bywyd a chyflyrau meddygol, gyda'r nod o gael effaith gadarnhaol, eang a pharhaol ar wella bywydau ar gynulleidfa fyd-eang.

Dywedodd Hugh Williams, Prif Swyddog Gweithredol Graig Shipping PLC:

"Ein nod yw hwyluso triniaethau cardiofasgwlaidd newydd drwy sefydliad sy'n cyfuno dymuniad i wneud gwahaniaeth go iawn i sector y gwyddorau bywyd.

"Gyda Grŵp Graig yn nesáu at ei ganmlwyddiant, ac ar ôl cael problemau calon personol, rwy'n falch iawn o fod yn gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe ac arbenigwyr blaenllaw yn y maes pwysicaf hwn o ymchwil feddygol, gyda golwg ar sefydlu platfform byd-eang parhaus a chymynrodd."

Meddai Marc Clement, Dirprwy-Lywydd Prifysgol Abertawe a Deon yr Ysgol Reolaeth:

"Diben sefydlu'r elusen newydd hon yw rhoi arweiniad ac ysgogi'r maes cardioleg i fabwysiadu arloesedd.

"Rydym yn dwyn set o sgiliau wedi'i theilwra ynghyd a fydd heb os, yn annog datblygiadau ac arloesedd blaengar. Rydym yn falch o bartneru â Graig Shipping PLC i roi budd i'r sector gwyddor bywyd drwy Sefydliad Graig."

600 x 338

Yn y llun, o'r chwith i'r dde: Yr Athro Marc Clement, Is-lywydd Prifysgol Abertawe a Deon yr Ysgol Reolaeth; yr Athro Stephen Westaby, llawfeddyg cardiaidd; a Hugh Williams, Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Graig Shipping.