Y Sefydliad Brenhinol i arddangos enillwyr Ymchwil fel Celf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae saith o ddelweddau syfrdanol a'r straeon tra diddorol y tu hwnt iddynt - megis breuddwyd am gael y bai ar gam, a sut i wybod pa bysgod yw'r rhai mwyaf cyfrwys – yn mynd i gael eu harddangos yn y Sefydliad Brenhinol, mewn arddangosfa o’r cynigion ar gyfer y gystadleuaeth Ymchwil fel Celf, sydd wedi cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe dros y chwe blynedd diwethaf.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei gynnal yn y Sefydliad Brenhinol yn Mayfair am bedair mis, yn dechrau 3 Medi.

300 x 93Enillydd cyffredinol y gystadleuaeth yw Crab blood and collaborations”, delwedd ficrosgop o waed cranc, sy'n dangos yr hyn y mae'r ymchwilwyr yn ei ddisgrifio fel "harddwch celloedd gwaed crisialaidd a pharasitiaid gemaidd".

Frances Ratcliffe o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe gyflwynodd y cais buddugol. Mae'n gweithio ar brosiect BlueFish, sef cydweithrediad a ariennir gan yr UE rhwng ymchwilwyr yng Nghymru ac Iwerddon sy'n astudio sut y mae pysgod a physgod cregyn yn ymateb i newid yn yr hinsawdd. Un o'r pynciau sy'n cael ei archwilio gan yr ymchwilwyr yw clefydau sy'n effeithio ar bysgod cregyn a chrancod bwytadwy. 

600 x 449

Llun: Enillydd cyffredinol Ymchwil fel Celf 2018: delwedd ficrosgop o waed cranc

Ymchwil fel Celf yw'r unig gystadleuaeth o'i math;  mae'n agored i ymchwilwyr o bob pwnc ac mae'r pwyslais ar adrodd hanes yr ymchwil, yn ogystal â chreu llun trawiadol.

Mae'r gystadleuaeth yn cynnig cyfle i ymchwilwyr ddangos eu creadigrwydd, ac mae'n dathlu amrywiaeth, harddwch ac effaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe - sydd ymysg y 30 prifysgol orau am ymchwil.

Derbyniwyd y nifer uchaf o geisiadau hyd yma, sef 97, gan ymchwilwyr ar draws holl Golegau'r Brifysgol.

Dewiswyd cyfanswm o 7 enillydd gan banel o feirniaid blaenllaw o'r Sefydliad Brenhinol, Nature a chylchgrawn Research Fortnight. Yn ogystal â'r enillydd cyffredinol, dyfarnwyd pedair gwobr gan y beirniaid, a dwy wobr i ymchwilwyr o sefydliadau eraill.

Lluniau - enillwyr Ymchwil fel Celf 2018

Meddai sylfaenydd a chyfarwyddwr y gystadleuaeth, Yr Athro Richard Johnston, athro mewn gwyddor deunyddiau a pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae Ymchwil fel Celf yn gyfle i ymchwilwyr ddatgelu straeon cudd eu hymchwil i gynulleidfaoedd na fyddent fel arfer yn ymgysylltu â nhw. Gall hyn ddatgelu eu straeon personol, eu dynoliaeth, eu hysbrydoliaeth a'u hemosiynau. 

Gall hefyd fod yn ffordd o gyflwyno eu proses ymchwil a sut brofiad yw bod yn ymchwilydd; mae'n annog deialog ac yn dileu rhwystrau rhwng prifysgolion a'r byd ehangach."

Dywedodd Gail Cardew, Athro Gwyddoniaeth, Diwylliant a Chymdeithas y Sefydliad Brenhinol:

"Yn un o feirniaid y gystadleuaeth Ymchwil fel Celf, roeddwn am i fwy o bobl gael cyfle i weld y delweddau. Mae rhai ohonynt yn drawiadol ynddynt eu hunain, ond mae harddwch hefyd yn y ffaith eu bod wedi'u cyfuno â naratif sy'n esbonio'r gwaith ac yn ei osod yn ei gyd-destun."

Y canlyniad yw casgliad o ddelweddau sy'n gwneud i ni feddwl yn ddwys am sut beth yw bod yn ymchwilydd – cawn gipolwg ar eu hysgogiadau, eu rhwystredigaethau a'u cyflawniadau. Bydd ymwelwyr â'r Ri dros y misoedd nesaf wrth eu bodd."

FIDEO - Enillwyr Ymchwil Fel Celf 2018