Y rhan fwyaf o bobl yn eu harddegau yn treulio oriau yn eistedd yn llonydd bob dydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae wyth deg y cant o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 mlwydd oed yn treulio dwy awr neu fwy'r dydd yn eistedd yn llonydd i chwarae ar ffonau, gwylio teledu neu eistedd mewn ceir.

Datgelir yr ystadegyn syfrdanol fel rhan o gerdyn adroddiad arbennig sy'n rhoi F pan ddaw at eu hymddygiad llonydd. Mae'r ffigwr yn codi i 87 y cant ar benwythnosau. 

Healthy kids

 

 

 

 

 

 

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Blant Egnïol Iach Cymru sy'n anelu at fonitro ffyrdd o fyw ac ymddygiadau plant, ac mae wedi paratoi ei drydedd gerdyn adroddiad blynyddol. 

Meddai’r Athro Gareth Stratton, arweinydd prosiect Plant Egniol Iach Cymru, ac Athro Gwyddor Chwaraeon Plant ym Mhrifysgol Abertawe: 

"Mae Cymru yn y drydedd waelod o ran gweithgaredd corfforol yn erbyn gwledydd tebyg, ond hyd yn oed yn waeth, rydym yn ennill medalau am faint o amser mae plant yn treulio’n eistedd." 

healthy kids report card

Mae'r cerdyn yn datgelu meysydd eraill sy'n peri pryder, gan gynnwys gradd D am gludiant - gyda'r mwyafrif o blant (56 y cant) ddim yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol bob dydd. 

Mae Cymru yn unig yn sgorio C- ar gyfer chwarae actif gan fod 41 y cant o blant rhwng pump a 17 mlwydd oed yn chwarae tu fas rhan fwyaf o ddyddiau. 

Mae cerdyn adroddiad Cymru yn cael ei lansio heddiw (dydd Llun) yn Adelaide, Awstralia ochr yn ochr â'r canlyniadau o wledydd ledled y byd a gesglir gan Gynghrair Fyd-eang Plant Egnïol Iach. 

Nod y grŵp hwn sy'n cynnwys cynrychiolwyr o 49 o wledydd yw hyrwyddo ffyrdd iach a bywiog o fyw i blant. 

Cynhyrchwyd y cerdyn adroddiad gan grŵp arbenigol sy'n cynnwys academyddion, ymchwilwyr ôl-raddedig, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sustrans, Chwarae Cymru, Chwaraeon Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. 

Dywedodd yr Athro Stratton, ar adeg pan fo cwricwlwm ysgol newydd yn cael ei ddatblygu yn ogystal â strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru, mae'r ymddygiadau mwyaf sylfaenol i greu plentyn bywiog a hapus yn dal i erydu. 

Ychwanegodd fod obsesiwn cyfredol y gymdeithas i ymladd gordewdra yn golygu bygythiad anweithgarwch ac mae ei ganlyniadau yn aml yn cael eu hanwybyddu. 

Rhoddodd yr Athro Stratton rybudd amlwg am iechyd plant yn y dyfodol. 

"Mae'n ffaith'n drist y bydd disgwyliad oes plant heddiw yn llai na'u rhieni, ond yn bwysicach na hynny, mae natur chwarae, chwilfrydedd, ymchwiliad trwy symudiad corfforol a'i gyfraniad at ddatblygiad iechyd plant yn ddechreuad dynol sylfaenol sydd wedi colli unrhyw werth yn y byd technolegol hon sy'n deillio'n sylweddol o hyn.” 

Ceir rhagor o wybodaeth ar: www.activehealthykidswales.com