Yr Athro Gert Aarts ar flaen y gad yn ymgyrch y DU i ddenu doniau mewn gwyddoniaeth ac arloesi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Athro Gert Aarts o Brifysgol Abertawe ar flaen y gad yn ymgyrch i DU i ddenu a meithrin doniau gorau’r byd mewn gwyddoniaeth ac arloesi.

Wedi iddo dderbyn buddsoddiad ar ffurf Cymrodoriaeth Uwch gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, aeth yr Athro Aarts ymlaen i gynhyrchu gwaith arloesol ar ddatblygu’r darlun o esblygiad gronynnau elfennol yn ystod datblygiad ein bydysawd.

Mae gan Gert gadair bersonol ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ei feysydd ymchwil yn cynnwys ffiseg gronynnau sylfaenol, yn benodol y rhyngweithiadau cryf dan amodau eithafol.

Derbyniodd Wobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol a Chymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Bwrdd Gwyddonol y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Astudiaethau Damcaniaethol ym maes Ffiseg Niwclear a Meysydd Cysylltiedig (ECT*).  Mae’n eistedd ar nifer o baneli, byrddau a phwyllgorau gan gynnwys:

  • Bwrdd Ymgynghorol STFC ar Sgiliau ac Ymgysylltu (SEAB)
  • Cyngor Gwyddonol ar y Cyd y Cyfleuster ar gyfer Ymchwil Gwrthbrotonau ac Ionau yn Ewrop (FAIR/GSI)
  • Panel Cymrodoriaethau Rhyngwladol Newton y Gymdeithas Frenhinol

Professor Gert Aarts at the ECT*

Yn ddiweddar amlinellodd yr Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark, fuddsoddiad gwerth £1.3 biliwn i brifysgolion a busnesau ym Mhrydain er mwyn datblygu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, arloeswyr ac arweinwyr gwyddonol a fydd yn sicrhau ein ffyniant economaidd yn y dyfodol. 

Mae’r cynllun ar agor i’r ymchwilwyr gorau o ledled y byd, gan sicrhau y bydd y DU yn parhau i ddenu’r bobl â’r doniau mwyaf eithriadol o ble bynnag y maent yn dod. 

Meddai’r Athro Gert Aarts:

“Cynigiodd Cymrodoriaeth Uwch yr STFC gyfle gwych i mi sefydlu fy hun yn y DU, ar ôl i mi wneud ymchwil ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol yn yr Iseldiroedd, yr Almaen ac UDA. 

“Roedd gallu gwneud ymchwil annibynnol, tra hefyd yn ymroi i’r grŵp Damcaniaeth Ffiseg Gronynnau a’r Adran Ffiseg ar yr un pryd, yn caniatáu i mi aeddfedu fel ymchwilydd gan wneud y broses o newid o fod yn ymchwilydd ôl-ddoethurol i fod yn academydd llawn yn llawer haws.

“Yn fy mhrofiad i, mae’r cyfuniad o Gymrodoriaeth wedi’i hariannu gan RCUK a swydd yn y Brifysgol yn cynnig y gorau o ddau fyd drwy gyfuno ymchwil a chyllid annibynnol â dilyniant trwy’r ysgol academaidd. Bydd y cynlluniau newydd a gyhoeddwyd gan UKRI yn darparu cyfleoedd ardderchog i ymchwilwyr addawol sefydlu eu hunain yn y DU.”

Meddai’r Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark,:

“Mae cydweithrediadau rhyngwladol wedi bod yn allweddol i lawer o’r cyflawniadau a’r darganfyddiadau mwyaf arwyddocaol ac rwyf am i’r DU barhau i fod y cyrchfan amlwg i’r gwyddonwyr a’r arloeswyr gorau. 

“Rydym yn buddsoddi yn sêr ymchwil ac arloesi’r dyfodol er mwyn sicrhau mai’r DU yw lle y caiff cynhyrchion a thechnolegau’r dyfodol eu datblygu.”