Y ffordd orau o fynd i'r afael ag eithafiaeth dreisgar – arbenigwyr rhyngwladol yn trafod tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Beth yw'r ffordd orau o fynd i'r afael ag eithafiaeth dreisgar, boed ar sail crefydd neu gan y dde eithafol, oedd y cwestiwn wrth wraidd cynhadledd ryngwladol fawr ym Mhrifysgol Abertawe, a ddaeth thros 200 o arbenigwyr yn eu maes at ei gilydd o ledled y byd.

Hedayah logoCynhaliwyd y gynhadledd gan Hedayah, canolfan arbenigedd rhyngwladol mewn atal eithafiaeth dreisgar.

Roedd y cynadleddwyr yn cynnwys ymchwilwyr, swyddogion y llywodraeth, academyddion ac arbenigwyr datblygu. Un o nodau allweddol y digwyddiad oedd amlygu'r ymchwil diweddaraf a'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio, ac adnabod ffyrdd o droi'r canfyddiadau hyn yn bolisïau a mesurau ymarferol.

Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys:

  • Naratif Crefyddol a'r Dde Eithafol a Naratif Gwrthwynebus
  • Recriwtio, Radicaleiddio, Y Cyfryngau a Thechnoleg
  • Rhywedd
  • Atgyfannu ac Adsefydlu

Mae Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe wedi gweithio mewn partneriaeth â Hedayah er 2015, a siaradodd nifer o'i arbenigwyr yn y gynhadledd.

Mae'r Ysgol yn cynnig arbenigedd ymchwil ar ystod o bynciau sy'n ymwneud â therfysgaeth ac eithafiaeth, yn enwedig ym maes pwysig seiberderfysgaeth a gweithgarwch ar-lein gan grwpiau eithafol.

Mae Ysgol y Gyfraith yn rhan o'r rhwydwaith ymchwil o'r Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Atal Terfysgaeth, y prif gorff sy'n cydlynu gwaith gan gwmnïau technoleg, gan gynnwys Facebook a Google, i atal pobl rhag defnyddio'u gwefannau ar gyfer cyhoeddi cynnwys eithafol.

Computer keyboard Dywedodd yr Athro Stuart Macdonald o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, y mae'n arbenigwr gwrthderfysgaeth a therfysgwyr yn defnyddio'r rhyngrwyd:

"Mae angen i ni wybod beth sy'n gweithio er mwyn atal eithafiaeth dreisgar yn effeithiol. Dyma pam mae'n bwysig rhoi ymarferwyr a llunwyr polisi gydag ymchwilwyr yn y maes.

Mae'r gynhadledd yn gyfle pwysig iawn i wneud hynny, gan helpu i sicrhau bod polisi ar sail tystiolaeth a'r ymchwil diweddaraf.

Mae angen i ni ddeall rhagor am y gwahanol negeseuon a ddefnyddir gan grwpiau eithafol, er enghraifft drwy ddelweddau a'r iaith a ddefnyddiant. Mae hefyd angen i ni wybod sut mae pobl yn ymgysylltu â'r negeseuon hynny.

Yn ogystal, mae'n hollbwysig edrych ar y mesurau a ddefnyddiwyd hyd yma i fynd i'r afael â'r broblem, i weld a ydynt wedi bod yn effeithiol ai peidio."

Esboniodd Maqsoud Kruse, Cyfarwyddwr Gweithredol Hedayah, ddiben y Gynhadledd Atal Eithafiaeth Dreisgar (CVE):

"Mae'r bumed Gynhadledd Ymchwil CVE Ryngwladol yn rhoi llwyfan unigryw i grwpiau nodedig o academyddion, ymarferwyr a llunwyr polisi er mwyn rhannu canfyddiadau ymchwil diweddar a chyfnewid arloesiadau newydd a syniadau creadigol ynghylch P/CVE cyfoes i gefnogi ymagwedd ar sail tystiolaeth at bolisi ac ymarfer."

Darganfyddwch fwy am Hedayah

Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe