Prifysgol Abertawe yn cael ei chydnabod ar Restr Llwyddiannau Cyntaf Gorau’r DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gwaith ar genhedlaeth newydd o driniaethau yn cael ei ddathlu am effaith trawsnewidiol ar gleifion canser

Swansea University cancer research recognised in UK’s Best Breakthroughs Lis

Heddiw, mae datblygiad newydd o Brifysgol Abertawe wedi ei henwi fel un o 100 llwyddiant cyntaf gorau’r DU am ei heffaith drawsnewidiol sylweddol ar fywyd pob dydd pobl. 

Mae’r Athro Paul Dyson o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ei enwi ar y rhestr o Lwyddiannau Cyntaf Gorau (Best Breakthrough) y DU yn ystod y ganrif ddiwethaf am ei waith arloesol a ddangosodd y gellir defnyddio salmonela i greu triniaethau canser gwell.

Dangosodd yr ymchwil, yn wahanol i radiotherapi a chemotherapi, ni fyddai’r triniaethau hyn yn wenwynig, gan dargedu’r tiwmor yn unig, heb effeithio ar feinwe iach. Hefyd, efallai mai dim ond un dos fyddai ei angen. Yr enw ar y dechnoleg wrth galon y dull yma yw RNAi, proses naturiol y mae celloedd yn ei defnyddio i leihau, neu dawelu, gweithgarwch genynnau penodol.

Mae’r Athro Paul Dyson wedi defnyddio’r dechnoleg yma’n flaenorol i ddatblygu arf heb blaleiddiad yn erbyn pryfed sy’n achosi salwch cysgu ac yn difrodi cnydau. Yn y cam nesaf, bydd y tîm yn profi a oes modd cyfuno sawl straen o facteria i dargedu’r gwahanol enynnau sy’n achosi canser (“onco-enynnau”) mewn gwahanol fathau o ganser, gan gynnwys canser y fron a chanser y colon a'r rhefr.

Mae’r rhestr o lwyddiannau’n dangos bod prifysgolion y DU ar flaen y gad gyda rhai o ddarganfyddiadau, arloesedd a mentrau cymdeithasol pwysicaf y byd, gan gynnwys creu’r we fyd-eang, gwaith yn mynd i’r afael â llygredd plastig, sganiau uwchsain i weld iechyd babanod yn y groth a sefydlu’r Cyflog Byw.

Mae’r rhestr hefyd yn amlygu’r llwyddiannau cyntaf llai enwog sy’n trawsnewid bywydau, gan gynnwys bra sydd wedi ei gynllunio’n arbennig i helpu menywod sy’n cael triniaeth radiotherapi; toiled sy’n fflysio gwastraff dynol heb ddŵr; datblygu techneg sgrymio newydd sy’n gwneud rygbi’n saffach; menter chwaraeon sy’n ceisio defnyddio pêl-droed i adfer gwrthdaro mewn cymunedau rhanedig; – a hyd yn oed gwaith sy’n diogelu ansawdd y siocled rydyn ni’n ei fwyta.

Crewyd un y Brifysgol

Crëwyd y rhestr gan Universities UK, grŵp ambarél prifysgolion y DU, fel rhan o ymgyrch CrëwydYnYBrifysgol i newid sut mae pobl yn meddwl am brifysgolion a dangos y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i bobl, bywydau a chymunedau ledled y DU.

Mae’n dilyn ymchwil annibynnol a wnaed gan Britain Thinks a ddarganfyddodd nad yw’r cyhoedd yn deall llawer ynglŷn â manteision prifysgol y tu hwnt i ddysgu israddedig. Mae’r canlyniadau’n dangos mai ymchwil yw un o’r prif sbardunau sy’n newid barn pobl am brifysgolion ond ei fod yn gysyniad haniaethol i nifer ohonynt.

Dywedodd Andrew Rhodes, Cofrestrydd and Phennaeth Gweinyddol Prifysgol Abertawe: “Mae’n llwyddiant ysgubol bod y brifysgol ar restr Llwyddiannau Cyntaf Gorau’r DU. Rydyn ni’n falch iawn o waith ein hacademyddion a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i bobl, bywydau a chymunedau.

“Mae ymgyrch CrëwydYnYBrifysgol yn fenter bwysig iawn i Brifysgol Abertawe gan ei bod yn galluogi myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, y gymuned leol a’r boblogaeth ehangach i ddeall y gwaith rydyn ni’n ei wneud a’r effaith mae’n ei chael.”

Dywedodd yr Athro Fonesig Janet Beer, Llywydd Universities UK: “Mae prifysgolion wir yn trawsnewid bywydau. Y dechnoleg rydyn ni’n ei defnyddio bob dydd, y feddyginiaeth sy’n achub bywydau, yr athrawon sy’n ysbrydoli – maen nhw i gyd yn dod o brifysgolion y DU a’r gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan academyddion.

“Mae rhestr Llwyddiannau Cyntaf Gorau’r DU yn destament i’r gwahaniaeth mae prifysgolion yn ei wneud i fywydau pobl ac rydyn ni eisiau i bawb ddathlu eu gwaith gyda ni.”

Fel rhan o ymgyrch CrëwydYnYBrifysgol, gwahoddwyd prifysgolion i enwebu un peth o’u sefydliadau maen nhw’n credu sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar bobl, bywydau a chymunedau. Cafwyd enwebiadau gan dros 100 o brifysgolion. Roedd y cynigion yn cynnwys iechyd, technoleg, yr amgylchedd, teulu, y gymuned, diwylliant a chwaraeon.

Mae rhagor o wybodaeth am restr Llwyddiannau Cyntaf Gorau’r DU ac ymgyrch CrëwydYnYBrifysgol yma 

Cefnogwyd RNAi gan AgorIP, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Â’i chanolfan ym Mhrifysgol Abertawe, mae AgorIP yn helpu ymchwilwyr, entrepreneuriaid a dyfeiswyr i gael eu heiddo deallusol (IP) i’r farchnadfa a sicrhau eu llwyddiant masnachol.