Prifysgol Abertawe’n penodi Cyfarwyddwr i’r Ffowndri Gyfrifiadurol newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’n bleser gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi bod yr Athro Alan Dix wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr cyntaf y Ffowndri Gyfrifiadurol newydd.

Bydd y cyfleuster o’r radd flaenaf, gwerth £31miliwn, ar gyfer Gwyddorau Cyfrifiadurol yn gweithredu fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil ar y cyd ac yn ceisio denu ymchwilwyr blaenllaw i Gymru, gan wneud Abertawe’n ganolbwynt i rwydwaith rhanbarthol llewyrchus o gwmnïau ac ymchwil digidol.

Mae’r Ffowndri Gyfrifiadurol yn derbyn £17m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a bydd yn hybu ymchwil yn y gwyddorau cyfrifiadurol a mathemategol ac yn gwneud Cymru’n ganolfan fyd-eang ar gyfer gwyddonwyr cyfrifiadurol a phartneriaid diwydiannol.

Ar ôl cwblhau ei gwrs gradd mewn Mathemateg, dilynodd yr Athro Dix yrfa mewn cyfrifiadura, gan arbenigo mewn rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn Athro  cyfrifiadura ym Mhrifysgol Birmingham, a chyn hynny ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Mae hefyd wedi bod yn ymchwilydd yn Talis, cwmni technoleg sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau academaidd, lle’r oedd yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gall technoleg arloesol helpu ym maes addysgu a dysgu. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfrau ar Ryngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron a Deallusrwydd Artiffisial.

Etholwyd Alan yn aelod o Academi SigChi yr ACM yn 2013, sy’n dangos y parch mawr sydd gan gymuned fyd-eang y maes rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron tuag at ei waith. Yn 2013, fe gerddodd yr Athro Dix berifferi Cymru gyfan, yn rhannol er mwyn ymchwilio i anghenion technolegol cymunedau ac yn rhannol er mwyn codi arian tuag at yr elusennau MHA, The Wallich a Tenovus.

Dywedodd yr Athro Dix: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael ymuno â’r Ffowndri Gyfrifiadurol. Mae’r Ffowndri’n creu amgylchedd unigryw lle mae cyfrifiadureg a mathemateg yn cwrdd â’i gilydd, a lle mae’r byd academaidd, diwydiant a chymunedau’n gallu dod ynghyd. Byddai hyn i gyd yn ddigon rhyfeddol. Ond, mae hefyd yn dod â mi yn ôl i Gymru - fy mamwlad, ac rwy’n edrych ymlaen o ddifrif at gael gweithio gyda’r tîm cyfan yn y Ffowndri Gyfrifiadurol i ysgogi trawsnewid digidol yng Nghymru a ledled y byd.”

Ychwanegodd yr Athro Matt Jones, Pennaeth y Coleg Gwyddoniaeth, a arweiniodd y cais am fuddsoddiad ariannol yn y Ffowndri Gyfrifiadurol: “Mae’r Ffowndri’n lle arbennig ar adeg arbennig i Gymru, y rhanbarth a’r byd. Yn gynyddol, rydyn ni’n clywed am bryderon y cyhoedd ynghylch dyfodol data mawr, deallusrwydd artiffisial a phethau tebyg. Mae’r Ffowndri yma i sicrhau bod lle canolog yn cael ei roi i werthoedd ac anghenion pobl wrth arloesi ym maes cyfrifiadura, a phwy well i’n helpu i gyflawni hyn nawr nag Alan?”

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae’r Athro Dix yn Gyfrifiadurwr cyd-ddisgyblaethol uchel iawn ei barch ac mae ganddo brofiad masnachol helaeth. Rydyn ni’n falch tu hwnt fod gwyddonydd mor dalentog a phrofiadol yn dychwelyd i Gymru ac yn hyderus y bydd yn Gyfarwyddwr cyntaf ysbrydoledig i’r Ffowndri Gyfrifiadurol. Bydd yn arwain y gwaith o wella integreiddio rhwng syniadau a mentrau a chydweithredu ar draws y Brifysgol a thu hwnt, gan gynnwys mewn partneriaethau â diwydiant a busnesau.”