Prifysgol Abertawe'n lansio Cynllun Rhannu Beiciau Cymunedol Cyntaf y Rhanbarth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw ymunodd staff a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe, busnesau lleol ac aelodau'r gymuned â'r Athro Richard B. Davies a Chyfarwyddwr Prifysgolion Santander y Deyrnas Unedig, Matt Hutnell, i lansio'n swyddogol gynllun rhannu beiciau newydd sy'n dechrau yn y ddinas.

Santander Bikeshare scheme

Mae Abertawe'n ymuno â Llundain a Milton Keynes, a Brunel yn fuan, i gynnig un o bedwar cynllun rhannu beiciau a gefnogir gan Santander.

Mae Beiciau Santander Abertawe'n bosib o ganlyniad i fuddugoliaeth wych Prifysgol Abertawe yn Her Prifysgolion Beiciau Santander ym mis Rhagfyr y llynedd. Yn ystod yr ymgyrch ariannol torfol egnïol, daeth staff a myfyrwyr o'r Brifysgol, y gymuned leol a busnesau lleol ynghyd i gefnogi'r Brifysgol gyda'i chais i ddod â chynllun rhannu beiciau i'r ddinas. Yn y gystadleuaeth enillodd y Brifysgol gyllid gwerth £100,000 gan Santander tuag at gostau cyfalaf y cynllun, a ddarperir gan nextbike, un o ddarparwyr rhannu beiciau mwyaf helaeth y byd.

Mae'r cysyniad o rannu beiciau'n dod yn fwyfwy poblogaidd wrth i gynlluniau newydd ymddangos ledled y DU.  Mae Cynllun Abertawe, sydd ar gael i'r gymuned gyfan, yn ogystal ag ymwelwyr â'r ddinas, yn un o oddeutu 20 o gynlluniau sydd bellach yn rhedeg yn y DU, ac i ddechrau bydd y cynllun yn darparu 50 o feiciau mewn 5 gorsaf ddocio wedi'u lleoli ar hyd y prif lwybr seiclo ar lan y môr.

  • Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe
  • Y Ganolfan Ddinesig
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Parcio a Theithio Ffordd Fabian
  • Campws y Bae Prifysgol Abertawe

Bydd chweched hyb yn agor yn y Mwmbwls yn nes ymlaen yn yr haf ac mae cynlluniau i ehangu'r cynllun eisoes yn cael eu trafod.

Yn ystod y lansiad swyddogol, croesawodd yr Athro Richard B. Davies westeion a chefnogwyr y cynllun o bob cwr o'r ddinas, gan ddiolch iddynt am gyfrannu at y broses o ddod â’r cynllun rhannu beiciau i'r ddinas.

Meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Hoffwn ddiolch i'r holl bobl hynny yn y Brifysgol, yr awdurdod lleol a'r gymuned leol sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosibl. Mae'r cynllun hwn yn rhan hanfodol o'r hyn yr ydym am ei wneud fel prifysgol - nid gwneud gwahaniaeth i'n myfyrwyr yn unig, ond gwneud gwahaniaeth i’r gymuned ehangach”. 

Chwaraeodd Prifysgol Abertawe ran bwysig yn y gwaith o gefnogi ac ennill yr ymgyrch, nid yn unig trwy addo arian yn ystod yr ymgyrch ariannu torfol, ond hefyd trwy ddarparu hawliau perchennog tir ar gyfer lleoli'r hybiau yn y Ganolfan Ddinesig, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian.  

Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd: "Rydym yn hynod falch o gefnogi'r fenter feicio newydd y mae'r Brifysgol wedi'i sicrhau. Rydym wedi buddsoddi llawer mewn isadeiledd beicio yn y ddinas dros nifer o flynyddoedd, ac fel rhan o ymrwymiadau ein cynllun teithio llesol, rydym yn parhau i edrych am ffyrdd o ehangu a gwella'r rhwydwaith beicio ar draws Abertawe.

"Bydd y cynllun newydd hwn yn galluogi'r nifer cynyddol o fyfyrwyr sy'n dewis astudio yn Abertawe i elwa o'n rhwydwaith eang ac i ddefnyddio beic fel modd gwych o deithio, gan hefyd gyfrannu at ein dyheadau teithio.”

Santander Bikeshare scheme

Yn ystod y lansiad, dathlodd Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander y Deyrnas Unedig, y berthynas barhaus gyda'r Brifysgol. Meddai: "Ein nod wrth lansio Her Beiciau Santander y Prifysgolion oedd helpu cymunedau lleol felly rydym wrth ein boddau ein bod yn cyflwyno'r cynllun i bobl Abertawe sydd wedi dangos cymaint o gefnogaeth gref trwy gydol y gystadleuaeth. Dechreuodd ein perthynas gyda Phrifysgol Abertawe yn 2013 ac ers hynny mae ein cyllid wedi cefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau busnes ac entrepreneuraidd. Rydym wrth ein boddau y bydd cynllun Beiciau Santander yn galluogi'r Brifysgol a'r gymuned leol i elwa ymhellach o'n partneriaeth gref."

Mae lansiad y cynllun yn cyd-fynd â phen-blwydd y GIG yn 70. Meddai’r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe:

"Mae'n amserol bod Cynllun Beiciau Santander yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe wrth i ni ddathlu 70 mlynedd o'n GIG godidog, rydym yn gweithio i sicrhau y bydd yn goroesi ac yn ffynnu am y 70 mlynedd nesaf.

"Rhan bwysig o gyflawni hyn yw canolbwyntio ar atal - a chynyddu lefelau o weithgarwch corfforol.  Mae lefelau ymddygiad eisteddog ymhlith pobl ifanc yng Nghymru'n parhau i fod yn uchel, ac mae'n hanfodol cynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol er mwyn gwella’n hiechyd ac atal clefydau a salwch yn y dyfodol.

"Yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe rydym yn hyfforddi meddygon, gwyddonwyr bywyd ac ymarferwyr gofal iechyd y dyfodol i ddeall ac annog pwysigrwydd derbyn cyfrifoldeb am eich iechyd a'ch lles eich hun ac mae cefnogi gweithgarwch corfforol yn rhan bwysig o hynny.

 “Mae ein hymchwil trwy brosiectau megis ACTIVE yn darparu gwybodaeth newydd a dealltwriaeth well o'r rhwystrau i weithgarwch corfforol ac mae'n cynnig argymhellion i ddatblygu ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o anweithgarwch - yn enwedig ymhlith pobl ifanc."

Yn dilyn y lansiad ffurfiol yn Ffreutur Tŷ Fulton hanesyddol y Brifysgol, aeth y gwesteion allan i ffarwelio â thîm o feicwyr gwirfoddol yn gwisgo coch Santander wrth iddyn nhw adael i fynd â'r 50 o feiciau i'w gorsafoedd docio priodol.

Mae'r beiciau bellach ar gael ac yn barod i'w defnyddio. Ceir rhagor o wybodaeth am gofrestru a'r prisoedd ar wefan y cynllun: www.santandercycles.co.uk/swansea.