Partneriaethau rhyngwladol yn cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer myfyrwyr ymchwil

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio cyfres o gymwysterau sy'n torri tir newydd, a fydd yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr PhD astudio ochr yn ochr ag arbenigwyr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang.

Mae partneriaethau ar y cyd wedi'u sefydlu'n ddiweddar â Phrifysgol Cape Town yn Ne Affrica, yn ogystal a Phrifysgol  Paris 1 Panthéon-Sorbonne  ym Mharis. 

Arweinir y rhaglen Cape Town arloesol gan y biolegwyr arloesol, Dr Andrew King a Dr Ines Fürtbauer yn Abertawe, a'u cydweithiwr o Dde America, yr Athro Justin O’Riain. Bydd myfyrwyr PhD yn treulio amser yn y maes yn Affrica, yn ogystal ag yn defnyddio'r dechnoleg olrhain yn Abertawe wrth iddynt geisio deall mwy am wrthdaro oherwydd cadwraeth. 

Baboon

Dywedodd Dr Fürtbauer : "Rhaglen PhD Prifysgol Abertawe a Cape Town yw'r radd ddoethurol gyntaf ar draws cyfandiroedd a gynigir gan Abertawe, ac mae'n fodel peilot ar gyfer eraill sydd yng nghanol y broses o drafod ym Mhrifysgol Abertawe." 

Mae tîm Partneriaeth Academaidd Prifysgol Abertawe hefyd wedi ymuno ag un o brifysgolion mwyaf mawreddog y byd sef Prifysgol Paris 1 Panthéon-Sorbonne, i sefydlu rhaglen ôl-raddedig sy'n amserol iawn i'r ddadl barhaus am Brexit. 

Bydd yr ymchwilwyr, sy'n astudio mudo rhyngwladol a chynhwysiant cymdeithasol yn Ffrainc a'r DU, yn edrych ar faterion sy'n ymwneud ag integreiddio mudwyr newydd yn Ewrop – sy'n arbennig o berthnasol wrth i egwyddorion symudedd yr UE gael eu hail-werthuso. 

"Mae'r rhaglen PhD ddwbl hon yn cysylltu Abertawe ag un o brifysgolion ymchwil orau'r byd, ac yn creu fframwaith ymchwil helaeth sy'n rhoi mynediad at gyllid strategol a chymorth cydweithredol o ystod eang o raglenni ymchwil Ewropeaidd," meddai Dr Sergei Shubin, Athro Cyswllt Daearyddiaeth Ddynol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Bolisi Mudo Prifysgol Abertawe. 

Disgrifiodd y rhaglen yn gyflawniad mawr ar gyfer y Brifysgol, a dywedodd y byddai'n cefnogi strategaeth rhyngwladoli yn y dyfodol drwy dynnu tîm ymchwil amlddisgyblaethol ynghyd o ddwy ochr y Sianel. 

"Ni fyddai'n bosibl cynnig cyfle mor unigryw heb gymorth gan yr Adran Partneriaethau Academaidd," ychwanegodd. 

Mae'r rhaglenni ymchwil diweddaraf yn dilyn gwaith ffyniannus ar y cyd â Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston yn Nhecsas, sydd bellach ar fin dechrau ei chweched flwyddyn. 

300 x 237Dywedodd yr Athro Steve Conlan o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, fod y rhaglen PhD ar y cyd, sy'n rhoi cyfle i gyfranogwyr wella eu gwaith ymchwil trwy dreulio cyfnodau helaeth yn labordai Tecsas, wedi ailgychwyn ar ôl cyfnod cyntaf llwyddiannus iawn. 

"Mae wyth o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn y cynllun hyd yn hyn, ac mae hyn wedi arwain at 16 o gyhoeddiadau ymchwil o'r radd flaenaf yn y bartneriaeth hon rhwng Prifysgol Abertawe a system ysbyty orau Tecsas," meddai. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaethau Academaidd Huw Morris: "Rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu creu cyfleoedd ymchwil newydd mor gyffrous gyda phartneriaid mor uchel eu parch. 

"Nod y rhaglenni PhD ar y cyd yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ategu eu hastudiaethau drwy dreulio amser mewn sefydliadau partner, yn ogystal â chyfrannu at waith ymchwil pwysig mewn ystod eang o ddisgyblaethau, wrth gael eu goruchwylio ar y cyd drwy gydol eu hymgeisyddiaeth." 

Rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd ymchwil a gynigir gan Brifysgol Abertawe.