Naw o bynciau Abertawe’n ymddangos yn nhabl dylanwadol QS 2018

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tabl y QS World University Rankings by Subject 2018 a gyhoeddwyd heddiw (28 Chwefror) yn cynnwys naw o bynciau a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe, dau yn fwy nag yn 2017.

O'r cyfanswm o 48 o bynciau sydd yn ymddangos yn y tabl eleni, mae disgyblaethau Nyrsio’r Brifysgol wedi cyrraedd y 100 safle uchaf, ac mae’r Gyfraith wedi cyrraedd y 200 uchaf - naid o 50 safle ers 2017.

QS World University Rankings by Subject 2018Mae safleoedd Meddygaeth a Mathemateg hefyd wedi codi eleni, gyda Mathemateg yn codi i’r 400 uchaf, a Mathemateg i’r 350 uchaf.

Mae disgyblaethau  Peirianneg y Brifysgol yn parhau i berfformio'n dda eleni, gyda Pheirianneg Sifil a Mecanyddol yn cadw eu lle ymhlith y 200 uchaf, a Pheirianneg Gemegol yn aros ymhlith 300 gorau’r byd. Mae Ffiseg wedi cadw ei le ymhlith 450 gorau’r byd.

Yn ogystal â’r naw pwnc sydd wedi’i rhestru yn y tabl ar gyfer safleoedd pwnc unigol, mae Abertawe hefyd wedi’i rhestru mewn tri allan o bedwar o feysydd pwnc QS:

  • Y Celfyddydau a’r Dyniaethau
  • Peirianneg a Thechnoleg
  • Gwyddor Bywyd a Meddygaeth
  • Gwyddorau Natur

Mae sefydliadau o 151 o wledydd wedi cael eu graddio ar draws 48 o bynciau mewn pum maes pwnc. Mae’r graddio yn cymharu pynciau yn seiliedig ar eu henw’n rhyngwladol am gryfder ymchwil a chyfeiriadau ymchwil, cysylltiadau gyda chyflogwyr i greu’r graddedigion gorau, ac ymchwil trosglwyddo gwybodaeth.  

Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch-ddirprwy Is-ganghellor: "Mae canlyniadau tablau QS yn atgyfnerthu sefyllfa Prifysgol Abertawe ymhlith y gorau yn y byd.

"Mae miloedd o sefydliadau ar draws y byd, ac wrth adeiladu ar lwyddiant ysgubol y llynedd, mae cael dau bwnc ychwanegol wedi eu rhestru yn y tabl eleni yn rhagorol. Bu llawer iawn o waith caled gan gydweithwyr i sicrhau canlyniad mor llwyddiannus ac, ar ran Tîm Rheoli Uwch y Brifysgol, hoffwn estyn diolch o waelod calon i bawb sy'n gysylltiedig â’r cyflawniad gwych hwn.

“Tra gellir canmol maes Nyrsio yn benodol am gyrraedd safle yn y 100 uchaf, beth sy’n destun balchder arbennig yw ystod yr ansawdd a gydnabyddir ar draws sawl maes astudiaeth, o Wyddorau Natur i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau.

“Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, ac fel Prifysgol ein nod yw parhau i adeiladu ar ein llwyddiant a chael ein hystyried ymhlith sefydliadau elît y byd. Mae'r canlyniadau hyn yn gam cadarnhaol ymlaen at gyflawni ein hamcanion”.

Canlyniadau Prifysgol Abertawe’n llawn:

Pwnc

Safle

Peirianneg Gemegol

300 uchaf

Peirianneg Sifil

200 uchaf

Gwyddorau Amgylcheddol

250 uchaf

Y Gyfraith

200 uchaf

Mathemateg

350 uchaf

Peirianneg Fecanyddol

200 uchaf

Meddygaeth

400 uchaf

Nyrsio

100 uchaf

Ffiseg

450 uchaf