Mynd i’r afael â’r prinder nyrsys diabetes arbenigol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn ymateb i'r bwlch hyfforddiant hwn gyda chwrs meistr dysgu o bell newydd arloesol

Amlygodd  Arolwg Gweithlu diweddaraf (2016) Diabetes UK fod baich gwaith nyrsys diabetes arbenigol wedi cynyddu mewn maint a chymhlethdod ers arolwg blaenorol 2012.

Fodd bynnag, mae bron i draean o swyddi nyrsys arbenigol diabetes wedi cael eu torri neu eu hisraddio, ac mae nifer o swyddi heb eu llenwi oherwydd anawsterau recriwtio. Datgelodd yr arolwg hefyd y bydd 57% o'r nyrsys diabetes arbenigol cyfredol yn gymwys i ymddeol o fewn y 10 mlynedd nesaf.

600 x 400

Ar hyn o bryd, mae hyfforddiant ar gyfer nyrsys diabetes arbenigol yn alwedigaethol, ond, oherwydd diffyg cefnogaeth i ennill y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen i symud ymlaen a heb gynllunio olyniaeth, ni fydd yna unrhyw ddilyniant o ran hyfforddiant ar gyfer nyrsys arbenigol diabetes yn y dyfodol. Gyda'r datblygiadau mewn triniaethau a thechnoleg ar gyfer diabetes, mae angen addysg ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (HCP) ar draws gofal sylfaenol a gofal eilaidd.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ymateb i’r blwch hyfforddiant hwn trwy ddatblygu rhaglen meistr newydd

Datblygwyd y rhaglen dysgu o bell modiwlaidd unigryw hon ar y cyd gan Dr Rebecca Thomas a Dr Sarah Prior yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac fe'i harweinir gan yr Athro Stephen Bain. Mae gan y ddwy brofiad helaeth mewn ymchwil diabetes ac addysg ôl-raddedig.

300 x 400

Dywedodd Dr Rebecca Thomas: "Amlygwyd yr her o recriwtio, cadw a hyfforddi nyrsys arbenigol diabetes (DSNs) mewn Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ddiabetes y llynedd.

“Mae nyrsys diabetes arbenigol yn hanfodol i bobl â diabetes ac mae’r nyrsys hyn wedi bod yn wynebu heriau sylweddol. Mae'r gweithlu'n mynd yn llai tra bod y galw a'r cymhlethdodau’n cynyddu."

Mae'r cwrs MSc Ymarfer Diabetes wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol - yn enwedig nyrsys diabetes arbenigol cyfredol neu nyrsys y dyfodol - sydd am arbenigo yn y maes diabetes.

Cwrs modiwlaidd dysgu o bell yw hwn, sy’n cynnig cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol raddio gyda gradd ôl-raddedig Ymarfer Diabetes MSc gan astudio llawn amser neu ran amser. Mae'r cwricwlwm yn amlddisgyblaeth yn ei natur, gan adlewyrchu'r prosesau rheoli integredig o fewn diabetes.

Mae'r cwrs nid yn unig yn cynnwys hyfforddiant arbenigol, diagnosteg a gwybodaeth yn seiliedig ar asesu ond mae hefyd yn cwmpasu datblygiad personol a phroffesiynol, ymarfer myfyriol a dysgu yn seiliedig ar broblemau.

Dywedodd Dr Partha Kar, Diabetolegydd Ymgynghorol sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Portsmouth: "Mae nyrsys arbenigol diabetes yn rhan hollbwysig o'r tîm amlddisgyblaeth – nhw efallai hyd yn oed yw prif gynheiliaid timau arbenigol diabetes. Gwariwyd rhan o gronfeydd trawsnewid diabetes GIG Lloegr gwerth £40 miliwn ar gynyddu'r nifer o nyrsys diabetes arbenigol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes yna gymhwyster safonol ar gyfer y nyrsys hyn, gan ei gwneud hi'n anodd i bobl sy'n byw gyda diabetes i wybod lefel yr arbenigedd sydd gan eu nyrsys.

"Er mwyn gwella canlyniadau, mae'n bwysig bod y tîm diabetes amlddisgyblaeth yn sicrhau bod eu gwybodaeth a'u sgiliau yn cadw i fyny â’r datblygiadau diweddaraf mewn therapïau a thechnoleg er mwyn diwallu anghenion eu cleifion orau."

Mae Dr Sarah Prior, Cyd-gyfarwyddwr Rhaglen, yn esbonio: "Rydym wedi llunio'r rhaglen i gyd-fynd â bywydau prysur gweithwyr iechyd proffesiynol - yn ogystal â chael cynnig cwrs dysgu o bell ar-lein, gallwn hefyd gynnig yr opsiwn o gwrs meistr rhan amser, Diplomâu Ôl-raddedig a Thystysgrifau Ôl-raddedig a modiwlau DPP unigol. Mae yna hefyd lawer o opsiynau ariannu, gan gynnwys bwrsariaethau, benthyciadau ôl-raddedig ac ysgoloriaethau gan yr ysgol feddygaeth."

Yn ôl Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Deon yr Ysgol Feddygaeth: “Fel un o’r tri ysgol feddygaeth orau yn y DU, rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod y cyfoeth o arbenigedd ym maes diabetes sydd gennym yn yr ysgol yn cael dylanwad ar ymchwil i ddatblygu cyffuriau a thriniaethau newydd, ac yn helpu i uwchsgilio gweithlu ein gwasanaeth iechyd. Roedden ni’n falch iawn yn ddiweddar o gael lansio ein MSc dysgu o bell gyntaf mewn Ymarfer Diabetes a fydd yn cychwyn ym mis Medi.

“Rydyn ni hefyd yn cael mwy o gydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol, gyda’r Athro David Owens, Arweinydd Retinopatheg Uned Ymchwil Diabetes Cymru, yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal Cleifion 2018 Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae’r gwobrau’n cydnabod gweithgarwch clinigol eithriadol sy’n cyfrannu at ofal rhagorol i gleifion.”

Mae Nicola Hewer yn Nyrs Diabetes Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mi fydd hi'n dechrau'r cwrs MSc mewn Ymarfer Diabetes ym mis Medi. Dywedodd Nicola: "Fel Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol sy'n gweithio i Ymddiriedolaeth GIG fawr yng Nghymru, rwy’n wynebu heriau gofal cymhleth amrywiol yn ddyddiol. Mae fy ngwaith yn amrywiol iawn ac mae ganddo elfennau addysgol a chlinigol.

"Mae nifer a chymhlethdod y bobl sydd â diabetes yn cynyddu, a theimlaf y bydd y cwrs MSc mewn Ymarfer Diabetes yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn helpu i sicrhau fy mod mor gymwys â  phosib i ddelio'n effeithiol ag unrhyw sefyllfa benodol.

 "Mae'r cwrs hwn o ddiddordeb arbennig i mi gan y bydd yn caniatáu i mi astudio yn fy amser fy hun a bydd yn ffitio o amgylch fy nheulu a fy mywyd gwaith prysur. Mantais arall yw y gallaf ddewis gwneud portffolio yn y gwaith, yn hytrach na ysgrifennu traethawd hir arall. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau'r cwrs ym mis Medi ac rwy'n hynod gyffrous i gwrdd ag arbenigwyr eraill yn y maes hwn i rannu arfer gorau yn ystod yr wythnosau preswyl."

Am ragor o wybodaeth am y cwrs Ymarfer Diabetes MSC yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: E-bostiwch: study@swansea.ac.uk neu ffoniwch: +44 (0)1792 602 741.

Ewch i’n gwfan: www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/colegau/meddygaeth