Myfyrwyr yn cyrraedd rhestr fer gwobrau arwain gofal iechyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau urddasol mewn seremoni i ddathlu arweinwyr gofal iechyd y dyfodol.

Mae'r darpar fydwraig Angharad Colinese a Sam Richards, sy'n astudio nyrsio, ill dau wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Rhaglen Arweinwyr Myfyrwyr a gynhelir gan Goleg Deon Iechyd ac Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett.

600 x 394

Angharad Colinese (i'r chwith) a Sam Richards (i'r dde) gyda Nadia Butt, Swyddog Prosiect a Digwyddiadau a Katerina Kolyva, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyngor y Deon.

Cafodd Angharad ei henwebu gyda'i mentor Linda Burke, o Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr yn y categori Partneriaeth Mentora Arweinwyr Gorau #150. 

Nod y Rhaglen Arweinwyr Myfyrwyr yw hyrwyddo a datblygu sgiliau arwain ymhlith gweithlu nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig y dyfodol ac mae wedi cynnig cyfleoedd y mae Angharad wedi achub arnynt. 

Meddai:

“Mae fy mhrofiad i o'r rhaglen arweinwyr wedi bod yn hynod werthfawr. Dw i wedi cwrdd â phobl o bob maes gofal iechyd ac wedi cyfathrebu â phobl ddylanwadol na fyddwn i fel arfer wedi cael y cyfle i siarad â nhw. 

“Heb y rhaglen hon, dw i ddim yn credu y byddwn i wedi cael yr hyder i chwilio am gyfleoedd neu hyd yn oed siarad o flaen myfyrwyr eraill, ac am y rheswm hwnnw dw i'n hynod ddiolchgar." 

Dywedodd Angharad ei bod yn enwedig o ddiolchgar i Linda am ei harweiniad:

“Ces i brofiad gwych gyda Linda a'm helpodd i ddysgu amdanaf i fy hun a'm cryfderau a meysydd i'w gwella. Mae'r cyngor y mae wedi'i roi i mi i gryfhau fy sgiliau a'm dysgu wedi bod yn fuddiol dros ben a byddaf yn parhau i ddefnyddio'r rhain drwy gydol fy hyfforddiant." 

Cafodd Sam ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer teitl #150 o Arweinwyr Nyrsys Gorau gan ddangos sgiliau sy'n cyfrannu'n gadarnhaol i'w alwedigaeth. 

Meddai:

“Dw i'n teimlo braidd yn swil bod eraill wedi barnu fy mod i'n haeddu enwebiad." 

“Alla i ddim canu clod y rhaglen ddigon. Mae wedi agor cynifer o ddrysau. Mae'r grŵp #150 o Arweinwyr yn griw gwych o bobl uchelgeisiol a brwdfrydig o'r un meddylfryd.“

 Gan fod y rhaglen yn cynnwys myfyrwyr o faes nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, roedd eisoes wedi magu profiad hanfodol o weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol a fydd yn fantais fawr iddo ar ôl iddo gymhwyso. 

“Mae'r GIG modern yn seiliedig ar arweinyddiaeth gan dîm amlddisgyblaethol i raddau mawr ond nid yw o reidrwydd yn ffordd o weithio y mae myfyrwyr yn cael profiad ohoni oni bai am ei harsylwi pan fyddant ar leoliad. 

“I fod yn rhan o gynifer o brosiectau ar y cyd â myfyrwyr o'r amrywiaeth eang o feysydd hyn wedi bod yn hynod gynhyrchiol," meddai. 

Mae Sam ac Angharad bellach yn edrych ymlaen at rannu eu profiad fel rhan o banel cynghori Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Prifysgol Abertawe sy'n cael ei ddatblygu gan Beryl Mansel, uwch-ddarlithydd nyrsio gyda Choleg y Gwyddorau Iechyd a Dynol. 

Bydd Angharad a Sam yn darganfod a ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn y seremoni wobrwyo ddydd Iau, 6 Rhagfyr yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon yn Llundain.