Myfyriwr yn derbyn gwobr arbennig am godi ymwybyddiaeth am anableddau dysgu

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyriwr BSc Nyrsio Iechyd Meddwl o Brifysgol Abertawe, Mitchell Richards, wedi derbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig gan Sefydliad Paul Ridd am ei ymdrechion i godi ymwybyddiaeth am anableddau dysgu

Mitchell RichardsMae myfyriwr BSc Nyrsio Iechyd Meddwl o Brifysgol Abertawe, Mitchell Richards, wedi derbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig gan Sefydliad Paul Ridd am ei ymdrechion i godi ymwybyddiaeth am anableddau dysgu.

Mae stori Paul Ridd wedi ysbrydoli gwaith Mitchell. Ffurfiwyd y Sefydliad ar ôl marwolaeth Paul Ridd a oedd yn anabl iawn, yn Ysbyty Treforys yn 2009Canfuwyd bod esgeulustod a diffyg hyfforddiant yn ffactorau a gyfrannodd at ei farwolaeth. Mae'r Sefydliad yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd a'u gofalwyr, ac yn codi ymwybyddiaeth am y problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth gyrchu gofal iechyd da.

 Ar hyn o bryd mae Mitchell yn anelu at gasglu 5000 o lofnodion ar gyfer deiseb i wneud hyfforddiant am anableddau dysgu yn orfodol i bob gweithiwr iechyd proffesiynol.

Dywedodd Mitchell wrth sôn am dderbyn y wobr: Rwy'n teimlo'n hynod ddiymhongar, ac yn werthfawrogol iawn am dderbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig gan Sefydliad Paul Ridd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith ardderchog y mae'r Sefydliad wedi'i gyflawni, sy'n golygu y bydd unigolion ag anabledd dysgu yn cael gofal iechyd gwell, ac y bydd addasiadau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith. Mae'r ymwybyddiaeth y maen nhw wedi'i chodi yn rhagorol, ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r gwaith gwych y maen nhw wedi'i wneud ac rwy'n gyffrous i fod yn rhan o fentrau yn y dyfodol."

Jonathan Ridd a Jayne Nicholls yw brawd a chwaer Paul Ridd, a nhw a ffurfiodd Sefydliad Paul Ridd. Mae'r ddau ohonynt yn gweithio i'r Sefydliad yn wirfoddol, a rheolir y Sefydliad gan Reolwr Prosiectau Elusennol sef Debbie Shawe. Dywedodd Jonathan: "Mae Jayne, Debbie a minnau'n credu bod Mitch yn ddyn ifanc ysbrydoledig. Mae wedi ein hysbrydoli'n barhaus drwy ei angerdd a'i ymroddiad, gan ddangos awydd go iawn i wella bywydau pobl ag anableddau dysgu."

Catherine Williams yw Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Nyrsio Cyn Cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe: Dywedodd: "Mae'r adran Nyrsio wrth ein boddau o weld Mitchell yn ennill y wobr hon am ei waith rhagorol wrth gefnogi Sefydliad Paul Ridd a chodi ymwybyddiaeth am anableddau dysgu yn y coleg. Mae ef wedi rhagori yn ei ymarfer, yn ogystal â rhoi o'i amser ei hun i helpu i wneud gwahaniaeth i bobl ag anabledd dysgu, drwy godi ymwybyddiaeth gyffredinol o'r problemau y maen nhw'n eu hwynebu'n wrth gyrchu gofal iechyd da. Mae Mitchell yn cefnogi digwyddiadau ac yn codi arian ar gyfer y Sefydliad ar bob cyfle. Yn ddiweddar, casglodd grŵp o ffrindiau ynghyd i fynd i gasglu 500 o lofnodion ar gyfer e-ddeiseb, a chodi arian ar yr un pryd. Dyma gyflawniad aruthrol i Mitchell, ac mae'n profi ei waith caled a'i ymroddiad. Heb os nac oni bai, mae ganddo'r gwerthoedd a'r rhinweddau y byddem yn disgwyl eu gweld mewn nyrs, a bydd yn gaffaeliad i'r proffesiwn a'r rhaglen nyrsio."