Mae ymchwil newydd yn dangos bod seiniau ffug llamhidyddion yn helpu ymdrechion cadwraeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil i ddulliau canfod llamhidyddion harbwr yn helpu i gynyddu dealltwriaeth o ddulliau effeithiol ar gyfer monitro rhywogaethau dan fygythiad oherwydd gweithgareddau anthropogenig megis sgil-ddalfa pysgodfeydd a llygredd arfordirol.

Yn yr astudiaeth gyntaf o'i math, datgelodd Dr Hanna Nuuttila o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe - ar y cyd â gwyddonwyr o Amgueddfa Gefnforeg yr Almaen, Prifysgol St Andrews a Phrifysgol Bangor - sut gall chwarae seiniau llamhidydd yn ôl ar gofnodydd acwstig helpu i asesu ardal ganfod y ddyfais, metrig sy'n ofynnol fel rheol ar gyfer monitro a chadwraeth effeithiol rhywogaethau gwarchodedig.

Y ffordd orau o fonitro llamhidyddion harbwr yw drwy gofnodwyr data tanddwr sy'n recordio'r cliciau ecoleoli a ddefnyddir at ddiben mordwyo a chwilota am fwyd. Bu'r astudiaeth hon yn edrych ar y dyfeisiau a ddefnyddir yn amlaf i gofnodi'r anifeiliaid hyn a dyfeisiwyd arbrawf a alluogodd ymchwilwyr i bennu cyrhaeddiad y cofnodwyr - rhywbeth nad oedd yn hysbys gynt.

Gwnaed hyn drwy chwarae yn ôl recordiad o gliciau artiffisial a rhai go iawn llamhidyddion harbwr i nifer o gofnodwyr ar amrywiaeth o bellterau a lefelau ffynhonnell sain.

Roedd hyn yn caniatáu i ymchwilwyr amcangyfrif cyfran yr holl seiniau a recordiwyd gan y ddyfais hon ac asesu sut roedd y pellter rhwng ffynhonnell y sain a'r ddyfais recordio'n effeithio ar hyn.

300 x 200

Y pellter uchaf lle'r oedd modd i'r ddyfais recordio seiniau llamhidydd oedd 566m, ond cyfrifwyd mai ychydig o dan 200m oedd amrediad canfod effeithiol cymedrig signal crai a 72m yn achos ffynonellau sain a adnabuwyd fel llamhidyddion gan yr algorithm mewnol. Felly, byddai pob cofnodydd cliciau tanddwr yn darparu gorsaf samplu gylchol â diamedr o 144m, y gellid ei defnyddio i amcangyfrif helaethrwydd nes ymlaen.

Mae llamhidyddion harbwr yn un o chwe rhywogaeth llamhidydd, sef anifeiliaid morol, sydd dan fygythiad cynyddol oherwydd gweithgareddau anthropogenig megis sgil-ddalfa pysgodfeydd, sŵn a llygredd arfordirol. Mae'r rhywogaeth wedi'i gwarchod ac mae'n ofyniad cyfreithiol i fonitro eu presenoldeb a'u dosbarthiad.

Meddai Dr Hanna Nuuttila, Swyddog Gwyddonol SEACAMS2 yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe:

"Er bod modd defnyddio dyfeisiau acwstig i gofnodi anifeiliaid, gall fod yn anodd iawn mesur union amrediad ac ardaloedd canfod cofnodwyr data acwstig, rhywbeth sy'n hollbwysig os bwriadwn ddefnyddio data acwstig i amcangyfrif helaethrwydd anifeiliaid.

"Mae'r astudiaeth hon yn disgrifio arbrawf chwarae'n ôl a dull dadansoddol i amcangyfrif yr amrediad a'r ardal ganfod effeithiol ar gyfer dyfeisiau acwstig goddefol i gofnodi cliciau morfilaidd.