Mae angen ailfeddwl y gwaith o warchod y môr yn y trofannau o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae erthygl newydd gan ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi galw am ailfeddwl ymdrechion i warchod y môr yn y trofannau, gan fod pobl a oedd yn dibynnu ar riffiau cwrel ar gyfer bwyd ac incwm yn y gorffennol yn edrych ar gynefinoedd eraill fwyfwy sy'n rhoi pwysau ar yr anifeiliaid sy'n byw mewn dolydd morwellt.

Seagrass meadow

 

 

 

 

 

 

 

 

Mewn erthygl yn Current Biology, mae Dr Richard Unsworth o Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol wedi datgelu bod pobl yn dibynnu'n llai ar riffiau cwrel ar gyfer ennill eu bywoliaeth, oherwydd bod y riffiau'n cael eu bygwth fwyfwy ac yn wynebu dyfodol ansicr o ganlyniad i gyfraddau cynyddol o ran y newid yn yr hinsawdd a thymheredd y byd sy'n codi.

Yn hytrach, mae'r erthygl yn dangos bod pobl yn troi at ddolydd morwellt fel ffordd o gefnogi pysgodfeydd, ond mae hyn yn bygwth y cynefinoedd hyn yn fwy ledled y byd. Erbyn hyn, mae taer angen ehangu'r pwyslais ar gadwraeth forol yn y trofannau. Er bod morwellt yn gyffredin yn fyd-eang, mae tystiolaeth bod y lefelau ohono sy'n dirywio yn codi oherwydd problemau sy'n ymwneud â dŵr lleol ac aflonyddwch ffisegol, ond gellir rheoli'r ffactorau hyn ar raddfeydd lleol. Dywedodd Unsworth, "Gyda'r cymorth cywir gall y dyfodol ar gyfer morwellt fod yn fwy disglair."

Er bod cryn sylw wedi'i roi i'r dirywiad o riffiau cwrel ac ymdrechion o ran eu gwarchod, yn ôl Dr Unsworth dyma'r amser cywir i'r gymuned gwarchod y môr yn y trofannau ehangu'r hyn y mae'n canolbwyntio arno a dod yn fwy realistig. Dadleuir na all ymdrechion cadwraeth fforddio canolbwyntio ar riffiau cwrel yn unig bellach, ond mae angen iddynt hefyd amddiffyn morwellt yn y dyfodol. Rhoddir pwyslais cynyddol ar syniadau dychmygol a chostus i achub riffiau cwrel, ond ni chydnabyddir bod angen meddwl ar draws y morlun morol trofannol ehangach er mwyn trefnu lle gellid canolbwyntio adnoddau'n fwy effeithlon.

Meddai Dr Unsworth: "Mae angen i Lywodraethau, cyrff anllywodraethol a chymunedau wneud rhagor o ymdrechion cadwraeth a'u hailflaenoriaethu, a defnyddio'r adnoddau cadwraeth cyfyngedig sydd ganddynt yn fwy penodol er mwyn cyrraedd systemau cynaliadwy. Ar gyfer morwellt, ceir cyfleoedd cadwraeth ymarferol i ddatblygu ffyrdd ymarferol er mwyn ymateb i'r defnydd cynyddol o adnoddau. Gall camau gweithredu penodol adfer a diogelu dolydd morwellt er mwyn cynnal cynifer o swyddogaethau'r ecosystemau ag y maen nhw'n eu darparu.”

Mae'r erthygl yn rhoi manylion am nifer o ffyrdd y gallai gwarchod morwellt fod o fudd i bobl a'r blaned, oherwydd bod gan ddolydd morwellt rôl hanfodol mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:-

  • cefnogi cynhyrchiant pysgodfeydd byd-eang
  • chwarae rôl hanfodol yn ein cylch carbon byd-eang
  • bod yn bio-hidlwyr pwysig yn ein hecosystemau arfordirol

Dywedodd Dr Unsworth, a gyhoeddodd y papur gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Uppsala a Phrifysgol James Cook:  "Mae rhywfaint o 'fannau disglair' o ran cadwraeth riffiau cwrel, sy'n nodi'r potensial i rai riffiau cwrel oroesi. Ond er mwyn i'n moroedd trofannol barhau i allu cefnogi pysgodfeydd a phobl, mae angen dybryd ein bod ni’n canolbwyntio ar ddiogelu ecosystemau a bioamrywiaeth sy'n cynnig y gwasanaethau ecosystemau mwyaf hanfodol wrth gael y capasiti i barhau'n gyfan mewn hinsawdd yn y dyfodol.

"Mae dolydd morwellt yn un o'r ecosystemau hynny, ac mae eu gwarchod o'r pwys mwyaf ar gyfer parhau i ddiogelu bywoliaeth a bwyd ar gyfer cannoedd o filiynau o bobl. Dyma'r amser cywir ar gyfer ymdrechion cadwraeth byd-eang i warchod ecosystemau morwellt."