Hwb ariannol gwerth £1.4m gan yr UE ar gyfer prosiect dyframaethu newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi heddiw [30.01.18] bod prosiect ymchwil sy’n ceisio annog twf busnesau Cymru yn y sector dyframaethu wedi cael hwb ariannol gwerth £1.4m gan yr UE

CSAR logo Welsh

Bydd y prosiect SmartAqua, sy'n werth £2m, yn caniatáu i wyddonwyr o Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR) Prifysgol Abertawe weithio gyda busnesau Cymru i ddefnyddio uwch-dechnoleg a datblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol ar gyfer y farchnad dyframaethu arbenigol.

 

 

Dywedodd yr Athro Drakeford: "Bydd y cynllun hwn yn datblygu ymchwil wyddonol i helpu busnesau i ddatblygu diwydiant dyframaethu Cymru ymhellach.

"Mae'n sector arbenigol sydd â'r potensial i ddarparu cyfleoedd economaidd pwysig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig."

Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddulliau glanach o gynhyrchu pysgod; defnyddio pysgod ar gyfer ymchwil biofeddygol a’r farchnad acwaria a datblygu bwydydd pysgod fferm a chynhyrchion maethfferyllol sy'n lleol ac yn ecogyfeillgar.

Nod y prosiect yw cofrestru patentau newydd, helpu busnesau i greu swyddi ac ehangu'r diwydiant yng Nghymru. Bydd busnesau yn y Gogledd, y De-orllewin a Chymoedd y De yn elwa ar hyn.

Dywedodd yr Athro Carlos Garcia de Leaniz, CSAR: "Rydym yn falch iawn o gael arian gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y fenter gyffrous hon a fydd yn ein galluogi i weithio gyda'r diwydiant i ddatblygu cynnyrch a thechnoleg sy'n newydd ac sydd eisoes yn bodoli a'u rhoi ar y farchnad. Bydd hyn, yn ei dro, yn creu cyfleoedd mawr eu hangen am swyddi, yn enwedig i fusnesau mewn cymunedau gwledig."  

CSAR yw unig ganolfan ragoriaeth dyframaethu cynaliadwy Cymru, a dyma ganolfan flaenllaw y DU sy'n ymwneud â thechnoleg glanhau dŵr a dyframaethu nad yw'n ymwneud â bwyd. Cafodd ei sefydlu yn 2003 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cyllid yr UE a Phrifysgol Abertawe.

CSAR Microalgae project

 

 

 

 

 

 

https://www.flickr.com/photos/swanseauniversity/albums/72157692810564745